Amdanom Ni
Ymddengys yn aml fod nifer o sefydliadau neu frandiau sy'n hyrwyddo pwysigrwydd iechyd da a lles. Yn yr adran hon rydym yn cyflwyno rhai o'r brandiau hyn yn gryno, gan gynnwys:
- » Ddinas Iach Caerdydd
- » Her Iechyd Caerdydd
- » Cynghrair Iechyd Caerdydd
- » Her Iechyd Cymru
- » newid am oes
Ddinas Iach Caerdydd
Yn 2009 daeth Caerdydd y ddinas gyntaf yng Nghymru i ennill statws Dinas Iach Sefydliad Iechyd y Byd (SIB), gan ymuno â deuddeg dinas arall yn y Deyrnas Unedig.
Mae cyflawni'r wobr hon yn cael ei ystyried fel cam pwysig i sicrhau bod Caerdydd yn parhau i ddatblygu fel un o'r llefydd gorau i fyw ynddo yn y wlad ac mae'n darparu gwir gyfle i ystod o asiantaethau sy'n gweithio ar hyd y ddinas i wella iechyd a lles pobl leol a lleihau anghydraddoldebau iechyd. Nid yw'n golygu bod Caerdydd wedi cyflawni statws iechyd penodol, yn hytrach mae'n ymwybodol o iechyd ac wedi ymrwymo'n gryf i'w wella ac ymdrin ag anghydraddoldebau sy'n bodoli.
Ein nod yw helpu ac annog dewis ffordd iach o fyw, ac mae'r wefan hon yn rhoi gwybodaeth a chyngor am iechyd a lles i unigolion a sefydliadau.
Rhagor o wybodaeth am Ddinas Iach Caerdydd.
Her Iechyd Caerdydd
Ymgyrch leol, yn adeiladu ar nod Her Iechyd Cymru i wella iechyd a lles unigolion a sefydliadau, yw Her Iechyd Caerdydd.
Y nod yw eich helpu a'ch annog i wneud newidiadau cadarnhaol i'ch ffordd o fyw. Rydyn ni am roi gwybod ichi am y cyfoeth o adnoddau a gweithgareddau sydd ar gael yn y ddinas, fel y galwch chi benderfynu ar ffyrdd call i wella eich iechyd a'ch lles.
Cynghrair Iechyd Caerdydd
Sefydlwyd yn 2000, mae Cynghrair Iechyd Caerdydd yn darparu partneriaeth strategol allweddol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghaerdydd, gydag aelodau o'r awdurdod lleol, y gwasanaeth iechyd a'r sector gwirfoddol. O 2003, mae Cynghrair Iechyd Caerdydd wedi darparu'r arweiniad i ddatblygu, gweithredu a monitro Strategaeth, Gofal Cymdeithasol a Lles ar gyfer Caerdydd. Mae'r Gynghrair hefyd yn darparu arweiniad strategol ar gyfer y rhaglen Dinas Iach a'r ffrydiau gwaith cysylltiedig.
Hyrwyddir y Gynghrair Iechyd Caerdydd gan y Tîm Partneriaeth Iechyd o fewn Cyngor Caerdydd. Os oes arnoch angen rhagor o wybodaeth am y bartneriaeth strategol a strategaethau yn gysylltiedig ag Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles ewch i wefan Cynghrair Iechyd Caerdydd
Mae'r Tîm Partneriaeth Iechyd yn cefnogi ac yn hyrwyddo Her Iechyd Caerdydd.
Her Iechyd Cymru
Lansiwyd Her Iechyd Cymru yn 2004 gan nodi nad cyfrifoldeb Llywodraeth Cynulliad Cymru a'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn unig yw iechyd y genedl - mae gan bawb ei ran i chwarae i wella iechyd Cymru.
Yn 2008 rhoddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru arian i'r holl Awdurdodau Lleol ddatblygu fersiwn lleol o'r Her Iechyd Cymru â'r nod o ehangu gwelliannau iechyd lleol.
newid am oes
Ymgyrch genedlaethol yw Newid am Oes sy'n annog teuluoedd i fwyta'n dda, symud mwy a byw'n hirach.
Y dyddiau hyn, gall 'bywyd cyfoes' olygu ein bod yn llawer llai egnïol. Gan fod cynifer o gyfleoedd i wylio'r teledu neu chwarae gemau cyfrifiadurol a chymaint o fwydydd cyfleus a phrydau parod ar gael, dydyn ni ddim yn symud o gwmpas cymaint, nac yn bwyta cystal, ag yr oeddem arfer ei wneud.
Felly, gallai 9 o bob 10 plentyn heddiw dyfu i fyny gyda lefelau peryglus o fraster yn eu cyrff. Gall hyn achosi clefydau sy'n bygwth bywyd fel:
- canser,
- diabetes math 2 a
- chlefyd y galon -
felly mae'n wirioneddol bwysig ein bod yn gwneud rhywbeth yn ei gylch. Mae Newid am Oes yn helpu teuluoedd i fwyta'n iach, symud mwy a byw yn hirach.
Rhagor o wybodaeth am newid am oes.
Ymunwch a byddwch yn rhan o ddinas iach!



