Cymorth Hygyrchedd

Cymorth Hygyrchedd

Mae Cyngor Caerdydd yn gweithio'n galed i sicrhau bod pob rhan o'r wefan hon mor hawdd i'w defnyddio â phosib i bawb.

Yn dilyn mae cyfarwyddiadau ar sut i gael y gorau o'r wefan hon. Os oes gennych unrhyw syniadau neu awgrymiadau am ffyrdd o wella'r wefan, yna cysylltwch â ni.

Fersiwn Testun yn unig

Mae fersiwn ar gael o'n gwefan sy'n cynnwys y testun yn unig o'n holl dudalennau gwe. Ni fydd yn dangos unrhyw luniau, ffotograffau na gwaith graffig. I gyrchu'r fersiwn testun yn unig, pwyswch y ddolen "Testun yn unig" yng nghornel dde ar dop y wefan.

Bysellau Cyrchu

Gellir defnyddio bysellau cyrchu gyda'r cyfarwyddiadau canlynol:

  • Ar gyfer defnyddwyr Windows, gellwch bwyso "ALT" â'r bysellau cyrchu sydd wedi'u rhestru
  • Ar gyfer defnyddwyr Macintosh, gellwch bwyso "CONTROL" â'r bysellau cyrchu sydd wedi'u rhestru
  • Bydd pwyso "Enter" wedyn yn mynd a chi i'r dudalen berthnasol.
  • Rydym wedi cynnwys y bysellau cyrchu safonol, sy'n cynnwys:
    • 1 = Hafan (e.e. Alt + 1 + Enter)
    • 2 = Fy Iechyd
    • 3 = Digwyddiadau
    • 4 = Gweithiwr Proffesiynol
    • 5 = Adnoddau
    • 6 = Amdanom Ni
    • 7 = Cyswllt
    • 8 = Opsiynau Arddangos
    • 9 = Map o'r Safle
    • 0 = Cymorth Hygyrchedd

Maint y Testun

Os yw maint diofyn y ffont yn rhy fach neu'n rhy fawr ar eich cyfer, gellwch ei newid trwy ddefnyddio'r newidydd maint ffont o fewn eich porwr.

Newid maint y testun yn eich porwr we:

  • Wrth ddefnyddio Internet Explorer Windows (gan gynnwys Pocket IE), defnyddiwch y ddewislen View - Text Size.
  • Os ydych yn defnyddio Firefox neu borwr gwe arall gan Mozilla, defnyddiwch y ddewislen View - Text Size;
  • Wrth ddefnyddio Safari, defnyddiwch yr opsiwn View - Make Text Bigger;
  • Yn Opera, defnyddiwch View - Style - User Mode;
  • Ac ar gyfer Internet Explorer Macintosh, a Netscape 6 a 7, defnyddiwch y ddewislen View - Text Zoom;

Os ydych yn defnyddio llygoden ag olwyn arni, efallai y byddwch yn gallu newid maint y testun trwy bwyso'r fysell Control neu Command a throi'r olwyn ar eich llygoden. O fewn rhai porwyr gellwch newid maint y testun trwy ddefnyddio'r bysellau Control neu Command a phwyso + neu -.

Mae modd pennu arddull a lliw y ffont yn ogystal â dewis lliwiau'r cefndir a'r blaendir. Mae'r ffordd yr ydych yn gwneud hyn yn amrywio o borwr i borwr.

  • Wrth ddefnyddio Internet Explorer Windows (gan gynnwys Pocket IE), defnyddiwch y ddewislen Tools - Internet Options.
  • Os ydych yn defnyddio Firefox neu borwr gwe arall gan Mozilla, defnyddiwch y ddewislen Tools - Options;
  • Wrth ddefnyddio Safari, defnyddiwch yr opsiwn View - Make Text Bigger;
  • Yn Opera, defnyddiwch y ddewislen View - Zoom;
  • Ac ar gyfer Internet Explorer Macintosh, a Netscape 6 a 7, defnyddiwch y ddewislen View - Text Zoom;

Arddull a lliwiau

Ar hyn o bryd, dim ond un arddull diofyn sydd - bydd arddulliau eraill ar gael cyn hir, neu gellwch wrthwneud yr arddull diofyn gan ddefnyddio eich ffeil arddull bersonol.

Dylai defnyddwyr Internet Explorer bwyso ar Tools, Internet Options ac yna'r botwm Colours, Fonts neu Accessibility i newid y cynnwys i ddiwallu eu hanghenion.

Dolenni

Mae gan nifer o ddolenni briodoleddau teitl sy'n rhoi mwy o fanylder am bwrpas y ddolen, oni bai fod y ddolen yn esbonio'r targed yn llawn (er enghraifft pennawd erthygl) yn barod. Ysgrifennir dolenni er mwyn iddynt wneud synnwyr pan na fyddant mewn cyd-destun.

Lluniau

Mae pob llun a ddefnyddir ar y wefan hon yn cynnwys priodoleddau ALT. Nid oes gan graffig addurnol briodoleddau ALT.

Ffeiliau PDF

Mae Adobe® Acrobat® Reader yn feddalwedd y gellir ei lwytho am ddim sy'n caniatáu i chi ddarllen ac argraffu ffeiliau Fformat Dogfennau Cludadwy (PDF) Adobe. Llwytho Acrobat Reader. Gall Adobe hefyd eich cynorthwyo i gyrchu cynnwys trwy ddefnyddio technolegau cynorthwyol megis darllenwyr sgrin neu chwyddhadur sgrin. Gellwch greu dolen i wefan Access Adobe am wybodaeth ar sut i wneud y dogfennau hyn yn hygyrch.

Cydymffurfiaeth â W3C

Mae'r Consortiwm y We Fyd-eang (W3C) yn darparu Canllawiau Hygyrchedd i gynnwys y We (WCAG) i bobl sy'n creu a chynnal gwefannau.

Mae'r canllawiau hyn yn helpu sefydliadau i ddarparu gwefannau hygyrch i bobl sydd ag anableddau. Mae'r canllawiau wedi'u rhannu'n dair lefel blaenoriaeth:

  • Blaenoriaeth 1
  • Blaenoriaeth 2
  • Blaenoriaeth 3

Mae pob tudalen ar y wefan hon yn cydymffurfio â Blaenoriaeth 1 ac mae'r rhan fwyaf o dudalennau'n cydymffurfio â Blaenoriaeth 1 a 2.

Rydym wedi ymrwymo i gynnal a chadw a gwella hygyrchedd y wefan hon. Ein nod yn yr hirdymor yw darparu gwefan sy'n cydymffurfio â phob lefel blaenoriaeth WCAG.

Adborth

Rydym bob amser yn edrych i wella ein gwefan, ac mae adborth defnyddwyr yn bwysig i ni. Os oes gennych unrhyw syniadau neu awgrymiadau ar ôl defnyddio'r wefan, cysylltwch â ni.

Wyddech chi

  •    Fod gennych hawl i adolygu eich meddyginiaethau gyda'ch fferyllydd lleol am ddim.
  •    Gall diet cytbwys, iach, ymarfer corff yn amlach a cholli pwysau pe bai angen rwystro datblygu'r clefyd siwgr.
  •    Gall pobl ifanc rhwng 13 a 25 oed gael cyngor cyfrinachol ynghylch iechyd rhywiol a derbyn condomau am ddim oddi wrth y Cynllun Cerdyn Condom Caerdydd.
  •    Gallai lleihau faint o halen sydd yn eich bwyd o 9g i 6g leihau pwysau gwaed.
  •    Mae camddefnyddio alcohol wedi golygu bod rhyw 33,000 o bobl yng Nghymru a Lloegr wedi gorfod mynd i'r ysbyty am eu bod yn dioddef o glefyd yr afu oherwydd alcohol.
  •    Gallai gwella'ch diet eich rhwystro rhag dioddef o draean o'r holl ganserau.
  •    Mae gan dros 40% o blant 5 oed yng Nghaerdydd un neu fwy o ddannedd pwdr.
  •    Ar hyn o bryd dywedir fod dros hanner poblogaeth Caerdydd dros bwysau neu'n ordew.
  •    Os ydych yn gyrru ar ôl yfed dwywaith y terfyn alcohol cyfreithiol rydych chi 30 gwaith mwy tebygol o achosi damwain ar y ffordd, na gyrrwr sydd heb yfed.
  •    Mae tystiolaeth yn dangos bod diet cytbwys iach, gweithgareddau corfforol a chadw pwysau iach yn effeithiol o ran osgoi a thrin gorbwysedd.
  •    Mae bod yn ordew yn golygu y gallech chi farw rhyw 9 mlynedd ynghynt.
  •    Gall ymarfer corff rheolaidd helpu'n sylweddol os ydych chi'n teimlo'n isel eich ysbryd, dan bwysau neu'n bryderus.
  •    Mae diet sy'n llawn ffrwythau a llysiau yn lleihau'r perygl o ddioddef oherwydd clefyd y galon.
  •    Bydd 650 miliwn o'r bobl sy'n fyw heddiw, yn marw oherwydd tybaco.
  •    Gallai bwyta darn ychwanegol o ffrwythau a llysiau y diwrnod olygu fod rhyw 4% yn llai o berygl o ddioddef clefyd y galon a 6% yn llai o berygl o ddioddef strôc.
  •    Os ydych chi'n ymarfer corff yn rheolaidd, rydych chi'n 50% yn llai tebygol o fynd yn ordew.
  •    Gellid arbed bron i £2000 y flwyddyn drwy roi'r gorau i ysmygu 20 sigar&eacure;t y dydd.
  •    Os ydych chi'n ymarfer corff yn rheolaidd, rydych ryw 50% yn llai tebygol o ddatblygu clefyd y galon na'r bobl hynny na ydynt yn ymarfer corff.
  •    Trwy ymarfer corff yn rheolaidd rydych yn lleihau'r perygl o ddatblygu osteoporosis.
  •    Mae wedi'i brofi fod ysmygu yn ystod cyfnod beichiogrwydd yn un o achosion marwolaeth grud.
  •    Yng Nghymru, amcangyfrifir bod peidio ag ymarfer corff yn costio rhyw £650 miliwn y flwyddyn i'r gwasanaeth iechyd a'r economi yn gyffredinol.
  •    Mae'r 6,000 o ddynion sy'n marw o glefyd y galon bob blwyddyn yn uniongyrchol oherwydd alcohol.
  •    Dim ond 26% o oedolion yng Nghaerdydd sy'n gwneud hanner awr o ymarfer corff 5 diwrnod yr wythnos.