Newid am Oes


Pam Newid am Oes?
Y dyddiau hyn, gall 'bywyd cyfoes' olygu ein bod yn llawer llai egnïol. Gan fod cynifer o gyfleoedd i wylio'r teledu neu chwarae gemau cyfrifiadurol a chymaint o fwydydd cyfleus a phrydau parod ar gael, dydyn ni ddim yn symud o gwmpas cymaint, nac yn bwyta cystal, ag yr oeddem arfer ei wneud.
Felly, gallai 9 o bob 10 plentyn heddiw dyfu i fyny gyda lefelau peryglus o fraster yn eu cyrff. Gall hyn achosi clefydau sy'n bygwth bywyd fel:
- canser,
- diabetes math 2 a
- chlefyd y galon -
felly mae'n wirioneddol bwysig ein bod yn gwneud rhywbeth yn ei gylch. Mae Newid am Oes yn helpu teuluoedd i fwyta'n iach, symud mwy a byw yn hirach.
Rydych newydd gymryd y cam cyntaf tuag at gael eich plant i fwyta'n iach, i symud mwy ac i fyw yn hirach dim ond drwy ddarllen y tudalen we hon - felly croeso i Newid am Oes.
Gwnewch Newid am Oes!
Mae'r daflen hon yn cynnwys rai awgrymiadau ar gyfer y camau bychain hawdd y gallwch eu cymryd i'ch rhoi chi a'ch teulu ar ben ffordd.
amser bwyd
Mae'n bwysig i blant fwyta prydau rheolaidd a chytbwys yn lle bod maetholion hollbwysig ar goll o'u deiet.
Cyngor:
Gofalwch nad yw eich plant yn colli brecwast - mae grawnfwyd, tost neu ffrwythau yn ffordd wych o ddechrau'r diwrnod.
prydau plentyn
Er eu bod yn tyfu, mae'n bwysig fod plant yn bwyta prydau o'r maint iawn ar gyfer eu hoedran - digon, ond dim gormod.
Cyngor:
Rhowch bryd sy'n addas ar gyfer eu hoedran i'r plant, ac nid yr un faint â chi.
5 y dydd
Mae'n haws na'r disgwyl ichi roi pum dogn o ffrwythau a llysiau y dydd i'ch plant. I blant, un dogn yw tua llond llaw.
Cyngor:
Mae ffrwythau a llysiau tun neu rai wedi'u rhewi yn cyfrif hefyd - mae'n gyflym ac yn rhad i ferwi pys sydd wedi'u rhewi neu i agor tun o india-corn.
llai o siwgr
Gall newid snacs a diodydd siwgwrllyd am rai sy'n cynnwys llai o siwgr wneud gwahaniaeth enfawr i'r calorïau y mae plant yn eu bwyta.
Cyngor:
Newid o ddiodydd siwgwrllyd i ddiodydd lle nad oes siwgr wedi'i ychwanegu, fel dŵr, llaeth, sudd ffrwyth di-siwgr neu
hyd yn oed ddiodydd pop di-siwgr.
mas âr braster
Mae pawb yn gwybod bod gormod o fraster yn ddrwg inni, ond dyw hi ddim yn hawdd bob tro dweud ymhle mae'r braster yn cuddio.
Cyngor:
Gall grilio neu bobi bwyd yn y ffwrn, yn hytrach na ffrïo mewn padell, dorri lefel y braster yn ei hanner.
cracio'r snacio
Mae llawer o snacs yn cynnwys lefelau uchel o fraster, siwgr a halen, felly cadwch lygad barcud ar faint o snaciau llai iach mae eich plant yn eu bwyta.
Cyngor:
Cadwch gofnod: mae llawer o bobl yn dychryn wrth gyfrif faint o felysion, creision a bisgedi y mae eu plant yn eu bwyta.
awr ffywiog
Mae angen i blant wneud o leiaf awr o weithgarwch corfforol y dydd i'w helpu i gadw'n hapus ac iach.
Cyngor:
Does dim rhaid i hyn fod yn chwaraeon - mae mynd allan i chwarae a rhedeg o gwmpas neu gerdded yn lle teithio yn y car i gyd yn cyfrif.
mynd o dod
Mae eistedd o flaen y teledu, y cyfrifiadur neu chwarae gêmau fideo yn gallu golygu nad yw ein cyrff yn llosgi digon o fraster.
Cyngor:
Mae rhai teuluoedd yn ystyried bod pennu cyfyngiad dyddiol ar gyfer eistedd yn llonydd (ee 'dim mwy na 2 awr') yn ffordd dda o sicrhau bod eu plant yn cadw'n actif.
Am ragor o syniadau a chynghorion am helpu'ch plant i gadw'n iach a heini, beth am ymuno â'r fenter Newid am Oes heddiw? Ffôn am ddim: 0800 100 900 / Ffôn symudol: 029 2090 6801.
- Mwynhewch fwyta'n iach a chael diet cytbwys iachus
- Gwnewch fwy o bethau corfforol i gadw eich calon yn iach a lleihau/ gynnal eich pwysau
- newid am oes





