Digwyddiadau
Digwyddiadau - Chwefror
Sioeau Teithiol Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd Cenedlaethol.
Pwll Maendy, Crown Way, Oddi ar North Road,
Caerdydd, CF14 3AJ.
Dydd Sul 6 Chwefror 2011, 11:00am - 3:00pm.
Stadiwm Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd, Leckwith Road, Caerdydd, CF11 8AZ.
Dydd Sul 13 Chwefror 2011, 11:00am - 3:00pm.
Canolfan Hamdden y Gorllewin, Caerau Lane, Trelai,
Caerdydd, CF5 5HJ.
Dydd Sul 20 Chwefror 2011, 11:00am - 3:00pm.
Llyfrgell Llanrhymni a Chanolfan Ddysgu, Countisbury Avenue, Llanrhymni, Caerdydd, CF3 5NQ.
Dydd Sul 27 Chwefror 2011, 11:00am - 3:00pm.
Bydd Cyngor Caerdydd yn cynnal cyfres o sioeau teithiol i helpu busnesau lleol i ddysgu mwy am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd Cenedlaethol newydd ac i'w helpu i wella eu safonau a chael sgôr uchel..
Bydd busnesau yn cael cyfle i sgwrsio â Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd yn y digwyddiadau am ddim yn ogystal â chanfod sut y gallant gyflawni Gwobr Opsiynau Iach.
Dywedodd y Cynghorydd Ed Bridges, Cadeirydd Pwyllgor Diogelu'r Cyhoedd Caerdydd: "Byddwn yn cynghori pob busnes i ymgyfarwyddo â'r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd newydd. Bydd y cynllun newydd yn gymhelliant gwych i fusnesau i gynnal a gwella eu safonau a rhoi mantais gystadleuol iddyn nhw dros gwmnïau eraill."
Mae'r cynllun yn cynnwys sgorau o ddim i bump yn dilyn archwiliad dirybudd gan Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd - 0 (angen gwelliant brys) i 5 (da iawn).
I gael rhagor o fanylion cysylltwch â Thîm Diogelwch Bwyd Cyngor Caerdydd, ffôn: 029 2087 1128.
» Website: Asiantaeth Safonau Bwyd: sgoriau hylendid
» Download: poster



