Byw'n Iach

Gall newidiadau ffordd iach o fyw fel bwyta’n iach, rhoi’r gorau i ysmygu, yfed alcohol yn gymedrol a gwneud llawer mwy o weithgareddau corfforol, helpu i atal rhai mathau o salwch fel strôc, canser, clefyd siwgr a chlefyd y galon. am y categorïau Fy Iechyd:

Healthy Eating

Bwyta'n Iach

Physical Activity

Gweithgarwch Corfforol

Healthy Mind

Meddwl Iach

Alcohol in Moderation

Yfed Alcohol yn Gymedrol

Sexual Health

Iechyd Rhywiol

Substance Misuse

Camddefnyddio Sylweddau

spacer

Caerdydd Dinas Iach

Stop Smoking

Rhoi'r Gorau i Ysmygu

Children & Young People

Plant a Phobl Ifanc

Healthy Ageing

Heneiddio'n Iach

spacer

Damweiniau
ac Anafiadau

spacer

Her Iechyd Caerdydd

 

Mae llawer o bethau y gallwch chi eu gwneud i rwystro iechyd gwael a newidiadau bychain iawn i'ch bywyd beunyddiol y bydd llawer o'r rhain.

Nod Her Iechyd Caerdydd yw darparu gwybodaeth i bobl o bob oed, o blentyndod iach i henaint iach. Dyma rai o brif themâu Her Iechyd Caerdydd. Maen nhw oll yn bethau a allai effeithio ar eich iechyd a'ch lles:

Mwynhewch fwyta'n iach a chael diet cytbwys iachus.

Gwnewch fwy o bethau corfforol i gadw eich calon yn iach a lleihau/ gynnal eich pwysau.

Mae iechyd meddwl positif yn sail dda i iechyd corfforol da a theimlo'n iach.

Yfwch alcohol yn gymedrol a byddwch yn ymwybodol o faint y gallwch ei oddef.

Mwynhewch berthnasau iach a byddwch yn ymwybodol o'ch iechyd hywiol.

Byddwch yn ymwybodol o gamddefnydd sylweddau a dibynadwyaeth arnynt.

Cyfyngwch ar eich defnydd o dybaco - neu rhowch y gorau iddo.


Ymunwch a byddwch yn rhan o ddinas iach!

 

Wyddech chi

  •    Fod gennych hawl i adolygu eich meddyginiaethau gyda'ch fferyllydd lleol am ddim.
  •    Gall diet cytbwys, iach, ymarfer corff yn amlach a cholli pwysau pe bai angen rwystro datblygu'r clefyd siwgr.
  •    Gall pobl ifanc rhwng 13 a 25 oed gael cyngor cyfrinachol ynghylch iechyd rhywiol a derbyn condomau am ddim oddi wrth y Cynllun Cerdyn Condom Caerdydd.
  •    Gallai lleihau faint o halen sydd yn eich bwyd o 9g i 6g leihau pwysau gwaed.
  •    Mae camddefnyddio alcohol wedi golygu bod rhyw 33,000 o bobl yng Nghymru a Lloegr wedi gorfod mynd i'r ysbyty am eu bod yn dioddef o glefyd yr afu oherwydd alcohol.
  •    Gallai gwella'ch diet eich rhwystro rhag dioddef o draean o'r holl ganserau.
  •    Mae gan dros 40% o blant 5 oed yng Nghaerdydd un neu fwy o ddannedd pwdr.
  •    Ar hyn o bryd dywedir fod dros hanner poblogaeth Caerdydd dros bwysau neu'n ordew.
  •    Os ydych yn gyrru ar ôl yfed dwywaith y terfyn alcohol cyfreithiol rydych chi 30 gwaith mwy tebygol o achosi damwain ar y ffordd, na gyrrwr sydd heb yfed.
  •    Mae tystiolaeth yn dangos bod diet cytbwys iach, gweithgareddau corfforol a chadw pwysau iach yn effeithiol o ran osgoi a thrin gorbwysedd.
  •    Mae bod yn ordew yn golygu y gallech chi farw rhyw 9 mlynedd ynghynt.
  •    Gall ymarfer corff rheolaidd helpu'n sylweddol os ydych chi'n teimlo'n isel eich ysbryd, dan bwysau neu'n bryderus.
  •    Mae diet sy'n llawn ffrwythau a llysiau yn lleihau'r perygl o ddioddef oherwydd clefyd y galon.
  •    Bydd 650 miliwn o'r bobl sy'n fyw heddiw, yn marw oherwydd tybaco.
  •    Gallai bwyta darn ychwanegol o ffrwythau a llysiau y diwrnod olygu fod rhyw 4% yn llai o berygl o ddioddef clefyd y galon a 6% yn llai o berygl o ddioddef strôc.
  •    Os ydych chi'n ymarfer corff yn rheolaidd, rydych chi'n 50% yn llai tebygol o fynd yn ordew.
  •    Gellid arbed bron i £2000 y flwyddyn drwy roi'r gorau i ysmygu 20 sigar&eacure;t y dydd.
  •    Os ydych chi'n ymarfer corff yn rheolaidd, rydych ryw 50% yn llai tebygol o ddatblygu clefyd y galon na'r bobl hynny na ydynt yn ymarfer corff.
  •    Trwy ymarfer corff yn rheolaidd rydych yn lleihau'r perygl o ddatblygu osteoporosis.
  •    Mae wedi'i brofi fod ysmygu yn ystod cyfnod beichiogrwydd yn un o achosion marwolaeth grud.
  •    Yng Nghymru, amcangyfrifir bod peidio ag ymarfer corff yn costio rhyw £650 miliwn y flwyddyn i'r gwasanaeth iechyd a'r economi yn gyffredinol.
  •    Mae'r 6,000 o ddynion sy'n marw o glefyd y galon bob blwyddyn yn uniongyrchol oherwydd alcohol.
  •    Dim ond 26% o oedolion yng Nghaerdydd sy'n gwneud hanner awr o ymarfer corff 5 diwrnod yr wythnos.