Fy Iechyd
Diogelwch Seddi Car Plant
Mae'r gyfraith yn gofyn i bob plentyn mewn ceir, faniau a cherbydau nwyddau eraill gael eu cario mewn ataliad plant priodol o enedigaeth nes eu bod yn cyrraedd taldra o 135cm (4'5") neu'n 12 oed (pa un bynnag a ddaw gyntaf). Mae'n rhaid iddynt ddefnyddio gwregys diogelwch (er byddai'n well defnyddio sedd gyfnerthu neu glustog gyfnerthu nes eu bod yn cyrraedd taldra o 150cm (5').
Rhai cynghorion eraill wrth ddewis sedd car:
- Dewiswch sedd sy'n addas i bwysau a thaldra eich plentyn:
- - Dylai babis fod mewn seddi babis sy'n wynebu'r cefn.
- - Peidiwch â symud eich plentyn i sedd sy'n wynebu'r blaen hyd nes eu bod yn pwyso o leiaf 9 cilogram ac yn gallu eistedd heb gymorth.
- - Unwaith y bydd eich plentyn yn drymach na'r mwyafswm pwysau ar gyfer sedd sy'n wynebu'r cefn neu mae top eu pen yn uwch na thop y sedd dylid eu symud i sedd sy'n wynebu'r blaen.
- Peidiwch â phrynu sedd ail law oni bai eich bod yn sicr o'i hanes. Efallai y bydd wedi bod mewn damwain ac wedi'i wanhau yn ddifrifol. Efallai na fydd cyfarwyddiadau gyda'r sedd neu na fydd wedi'i ddylunio i safonau presennol.
- Darllenwch a dilynwch gyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a sicrhewch fod y gwregys diogelwch yn mynd trwy'r holl gyfeiryddion cywir ar y sedd plentyn. Os nad oes gennych y cyfarwyddiadau gallwch gysylltu â'r gwneuthurwr i anfon copi atoch.
- Gwthiwch eich pwysau i'r sedd plentyn wrth i chi dynhau'r gwregys i sicrhau bod y sedd plentyn yn ddiogel.
- Os ydych yn gosod sedd plentyn sy'n wynebu'r blaen yn ffrynt y car sicrhewch fod sedd y car mor bell yn ôl ag y gall fod gan fod hyn yn lleihau'r posibiliad o anafiadau i'r pen neu'r frest mewn gwrthdrawiad. Os ydych yn tynnu'r sedd plentyn o'r car sicrhewch eich bod chi'n ei osod yn gywir bob tro y byddwch yn ei roi'n ôl. Os bydd yn aros yn y car yn barhaol gwiriwch ef yn rheolaidd i sicrhau ei fod yn ddiogel.
- Sicrhewch fod eich plentyn yn defnyddio'r sedd ar gyfer pob siwrne waeth pa mor fyr yw'r siwrne.
- Os ydych yn defnyddio sedd neu glustog cyfnerthu, dylai'r gwregys diogelwch oedolyn orffwys ar ysgwydd y plentyn a theithio o asgwrn clun i asgwrn clun. Peidiwch byth â phlygu'r gwregys diogelwch dan fraich y plentyn neu du ôl i'w cefn.
- Mae rhai plant yn mynd trwy gyfnod o lithro allan o'r harnais neu ryddhau'r bwcl ond peidiwch â newid y bwcl i atal hyn oherwydd gallwch effeithio ar y mecanwaith rhyddhau cyflym.
- O fis Mai 2008 mae'n rhaid i'r holl ataliadau plant gydymffurfio â safon ECE44.03 y CU (neu fersiynau olynol).
- Gosodwch esiampl dda bob amser drwy wisgo eich gwregys diogelwch.
Dolenni Diogelwch Seddi Car Plant



