Fy Iechyd
Diogelwch Tân
Gall tanau ddechrau yn sydyn a lledaenu'n gyflym gan ddifrodi eich cartref a rhoi bywydau mewn perygl.
Achosir tanau mewn amrywiaeth o ffyrdd ond mae ychydig o ragofalon syml y gallwch eu cymryd i'w hatal rhag cychwyn. Y ffordd fwyaf effeithiol o achub bywyd ac atal anaf pan fo tân yw cael larwm mwg wedi'i osod ar bob llawr yn y tŷ a'i wirio'n wythnosol. Un wedi'i wifro i'r prif gyflenwad yw'r gorau. Fel arall gallwch ddewis un â batri deng mlynedd.
Cyngor cyffredinol:
- Cadwch fatsis a thanwyr o olwg a chyrraedd plant.
- Diffoddwch a gwaredwch sigarennau yn iawn.
- Sicrhewch fod gard priodol ar bob tân a gwresogydd.
- Bydd gard priodol yn gorchuddio'r lle tân cyfan neu'r ardal o amgylch y tân - nid yn unig y tân ei hun. Pan fo plant o gwmpas defnyddiwch un â chlipiau ochr sy'n cael eu gosod i fracedi wal sefydlog.
- Os oes gennych dân glo defnyddiwch gard gwreichion dros nos.
- Sicrhewch nad yw gwresogyddion cludadwy a chanhwyllau yn agos at ddodrefn a llenni.
- Peidiwch â sychu neu grasu dillad dros neu wrth ymyl y tân neu'r popty.
- Sicrhewch fod eich blanced drydan yn cael ei gwirio'n rheolaidd.
- Peidiwch â phrynu dodrefn heb y label gwrth-dân oherwydd gallai fynd ar dân yn rhwydd.
- Peidiwch â gorlwytho socedi trydan.
Rydych bron i dair gwaith yn fwy tebygol o gael eich lladd mewn tân sy'n dechrau gyda'r nos felly sicrhewch fod gennych drefn dda gyda'r nos:
- Sicrhewch fod pob sigarét wedi'i ddiffodd yn gywir.
- Caewch bob drws a diffoddwch swîts / datgysylltu plygiau bob offer (ac eithrio'r rhai sydd wedi'u cynllunio i gael eu gadael ymlaen megis oergelloedd a rhewgelloedd).
- Peidiwch â gadael y Teledu neu offer trydanol arall ar y modd segur. Diffoddwch y swîts a datgysylltu'r plwg bob tro pan nad ydych yn eu defnyddio.
- Os oes angen cadw drws ystafell wely ar agor caewch y drysau i'r lolfa a'r gegin.
- Peidiwch ag ysmygu yn y gwely.
- Trefnwch lwybr dianc a'i ymarfer fel bod pawb yn gwybod sut i fynd allan yn ddiogel. Cofiwch efallai y bydd angen i chi adael y tŷ yn y tywyllwch.
- Byddwch yn ofalus iawn os ydych yn flinedig neu wedi bod yn yfed.
- Diffoddwch eich blanced drydan a datgysylltu'r plwg pan fyddwch yn y gwely oni bai ei fod wedi'i gynllunio i gael ei adael ymlaen dros nos.
Mae Gwasanaethau Tân ac Achub De Cymru yn cynnig gwiriad diogelwch tân y cartref am ddim. Yn ystod yr ymweliad bydd y Gwasanaeth Tân yn rhoi cyngor personol i chi ar sut i leihau'r perygl o dân, cyngor ar sut i adael argyfwng a lle bo angen, byddant yn cyflenwi a gosod larymau mwg. Mae'r gwasanaeth hwn am ddim ac ar gael i bawb. I drefnu ymweliad cysylltwch â'r Gwasanaeth Tân ac Achub ar 0800 169 1234.
I goginio'n ddiogel:
- Peidiwch â choginio os ydych wedi bod yn yfed.
- Peidiwch byth â gadael beth bynnag rydych yn ei goginio.
- Cadwch lygad ar y badell wrth ffrïo saim dwfn bob amser. Ni ddylai'r badell fod yn fwy nag un traean yn llawn o olew. Gwell fyth fyddai prynu ffrïwr saim dwfn â rheolydd thermostatig neu defnyddiwch sglodion popty.
- Peidiwch â gadael y peiriant golchi, peiriant golchi llestri neu'r sychwr dillad ymlaen gyda'r nos pan fyddwch allan.
- Cadwch y popty, pentan, tostiwr a'r gril yn lân - gall gormod o fraster, briwsion a saim fynd ar dân yn rhwydd.
- Cadwch eitemau fflamadwy megis erosolau, gludyddion, olew, paraffin neu betrol draw o blant a lle nad ydynt mewn cyswllt uniongyrchol â gwres neu olau haul.
Dathlwch yn ddiogel - mae goleuadau addurniadol a chanhwyllau yn achosi perygl felly:
- Peidiwch â gorlwytho socedi trydan â goleuadau Nadolig ychwanegol.
- Os oes angen rhagor o blygiau arnoch defnyddiwch addasydd 'math bar' gyda ffiws.
- Diffoddwch ganhwyllau yn gywir a pheidiwch byth â'u gadael heb oruchwyliaeth.
- Peidiwch â mynd allan a gadael goleuadau Nadolig neu ganhwyllau yn llosgi. Gwiriwch eu bod wedi diffodd cyn i chi adael y tŷ a chyn i fynd i'r gwely.
- Os oes gennych hen oleuadau ystyriwch brynu rhai newydd a fydd yn cwrdd â safonau diogelwch llawer uwch.
- Peidiwch â defnyddio goleuadau tu allan oni bai eu bod wedi'u creu i'w defnyddio ar gyfer hynny.
- Pe bai tân yn cychwyn, peidiwch â rhoi eich hunan mewn perygl drwy geisio mynd i'r afael ag ef. Cyngor y Gwasanaeth Tân yw:
- Ewch allan, arhoswch allan a ffoniwch y gwasanaeth tân.
- Am wiriad diogelwch y cartref am ddim a larymau mwg am ddim ffoniwch eich gwasanaeth tân lleol ar 0800 169 1234.
Dolenni Diogelwch Tân
» Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
» Fire Kills (Directgov)
Am wiriad diogelwch y cartref am ddim a larymau mwg am ddim ffoniwch eich gwasanaeth tân lleol ar 0800 169 1234.



