Y ffordd ddiogelaf o wylio tân gwyllt yw mewn arddangosiad wedi'i drefnu lle gellir eu mwynhau o bellter diogel. Dim ond oedolion a ddylai ymdrin ag arddangosiadau tân gwyllt a goleuo tân gwyllt. Dylent hefyd fod yn ofalus wrth waredu tân gwyllt yn ddiogel unwaith y byddant wedi'u defnyddio.
Cyngor cyffredinol:
Cynlluniwch eich arddangosiad tân gwyllt i sicrhau ei fod yn ddiogel a difyr.
Cadwch dân gwyllt mewn bocs caeedig a'u defnyddio unwaith ar y tro.
Dilynwch y cyfarwyddiadau ar bob tân gwyllt drwy ddefnyddio tortsh os oes angen.
Cadwch fflamau noeth, gan gynnwys sigarennau, draw o dân gwyllt.
Goleuwch y tân gwyllt o bellter braich gyda thapr a sefwch yn ôl.
Gwisgwch ogls a dillad amddiffynnol wrth oleuo tân gwyllt.
Peidiwch byth â mynd yn ôl at dân gwyllt unwaith y bydd wedi'i oleuo.
Peidiwch â rhoi tân gwyllt mewn pocedi a pheidiwch byth â'u taflu.
Cyfeiriwch unrhyw dân gwyllt roced ymhell i ffwrdd o'r gwylwyr.
Peidiwch byth â defnyddio paraffin neu betrol ar goelcerth.
Sicrhewch fod y tân wedi diffodd a bod yr ardal o amgylch yn ddiogel cyn gadael.
Cadwch anifeiliaid anwes tu mewn.
Ffyn gwreichion:
Peidiwch byth â'u rhoi i blant dan bump oed.
Gwisgwch fenig bob amser.
Dylai plant gadw'r ffon wreichion hyd braich wrth i oedolyn ei oleuo.
Peidiwch byth â'i chwifio wrth ymyl rhywun arall oherwydd gallwch eu llosgi.
Peidiwch byth â dal babi yn eich breichiau wrth i chi afael mewn ffon wreichion.
Pan fo'r ffon wreichion wedi gorffen rhowch mewn bwced o ddŵr oer yn syth bin a'i gadael yno.
Fod gennych hawl i adolygu eich meddyginiaethau gyda'ch fferyllydd lleol am ddim.
Gall diet cytbwys, iach, ymarfer corff yn amlach a cholli pwysau pe bai angen rwystro datblygu'r clefyd siwgr.
Gall pobl ifanc rhwng 13 a 25 oed gael cyngor cyfrinachol ynghylch iechyd rhywiol a derbyn condomau am ddim oddi wrth y Cynllun Cerdyn Condom Caerdydd.
Gallai lleihau faint o halen sydd yn eich bwyd o 9g i 6g leihau pwysau gwaed.
Mae camddefnyddio alcohol wedi golygu bod rhyw 33,000 o bobl yng Nghymru a Lloegr wedi gorfod mynd i'r ysbyty am eu bod yn dioddef o glefyd yr afu oherwydd alcohol.
Gallai gwella'ch diet eich rhwystro rhag dioddef o draean o'r holl ganserau.
Mae gan dros 40% o blant 5 oed yng Nghaerdydd un neu fwy o ddannedd pwdr.
Ar hyn o bryd dywedir fod dros hanner poblogaeth Caerdydd dros bwysau neu'n ordew.
Os ydych yn gyrru ar ôl yfed dwywaith y terfyn alcohol cyfreithiol rydych chi 30 gwaith mwy tebygol o achosi damwain ar y ffordd, na gyrrwr sydd heb yfed.
Mae tystiolaeth yn dangos bod diet cytbwys iach, gweithgareddau corfforol a chadw pwysau iach yn effeithiol o ran osgoi a thrin gorbwysedd.
Mae bod yn ordew yn golygu y gallech chi farw rhyw 9 mlynedd ynghynt.
Gall ymarfer corff rheolaidd helpu'n sylweddol os ydych chi'n teimlo'n isel eich ysbryd, dan bwysau neu'n bryderus.
Mae diet sy'n llawn ffrwythau a llysiau yn lleihau'r perygl o ddioddef oherwydd clefyd y galon.
Bydd 650 miliwn o'r bobl sy'n fyw heddiw, yn marw oherwydd tybaco.
Gallai bwyta darn ychwanegol o ffrwythau a llysiau y diwrnod olygu fod rhyw 4% yn llai o berygl o ddioddef clefyd y galon a 6% yn llai o berygl o ddioddef strôc.
Os ydych chi'n ymarfer corff yn rheolaidd, rydych chi'n 50% yn llai tebygol o fynd yn ordew.
Gellid arbed bron i £2000 y flwyddyn drwy roi'r gorau i ysmygu 20 sigar&eacure;t y dydd.
Os ydych chi'n ymarfer corff yn rheolaidd, rydych ryw 50% yn llai tebygol o ddatblygu clefyd y galon na'r bobl hynny na ydynt yn ymarfer corff.
Trwy ymarfer corff yn rheolaidd rydych yn lleihau'r perygl o ddatblygu osteoporosis.
Mae wedi'i brofi fod ysmygu yn ystod cyfnod beichiogrwydd yn un o achosion marwolaeth grud.
Yng Nghymru, amcangyfrifir bod peidio ag ymarfer corff yn costio rhyw £650 miliwn y flwyddyn i'r gwasanaeth iechyd a'r economi yn gyffredinol.
Mae'r 6,000 o ddynion sy'n marw o glefyd y galon bob blwyddyn yn uniongyrchol oherwydd alcohol.
Dim ond 26% o oedolion yng Nghaerdydd sy'n gwneud hanner awr o ymarfer corff 5 diwrnod yr wythnos.