Mae'r ardd yn lle i'r teulu cyfan ei fwynhau ond gall damweiniau ddigwydd yno hefyd.
Cyngor cyffredinol:
Rhowch gebl tociwr gwrych neu dorrwr gwair dros eich ysgwyddau a'i gadw tu ôl i chi bob amser.
Gwisgwch ddillad ac esgidiau priodol wrth dorri gwair a chadwch eich traed a dwylo draw o lafnau'r torrwr gwair.
Amddiffynnwch eich hun rhag cael eich trydanu drwy ddefnyddio Dyfais Cerrynt Gweddillol (RCD) bob amser wrth weithredu offer gardd trydanol.
Peidiwch â gweithio gyda thrydan mewn amodau llaith neu wlyb.
Sicrhewch eich bod yn gwybod pa blanhigion sy'n wenwynig gan sicrhau nad yw plant yn mynd yn agos atynt. I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â pha blanhigion sy'n wenwynig ymwelwch â gwefan Real Gardeners.
Osgowch wenwyno neu anafiadau damweiniol i chi'ch hun neu eraill drwy ddilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr wrth ddefnyddio chwynladdwyr, gludyddion a thoddyddion.
Peidiwch byth â throsglwyddo unrhyw sylweddau i gynhwysyddion eraill a all ddrysu ac arwain at wenwyno.
Osgowch wenwyno a llosgi cemegol drwy gadw cemegau yn ddiogel o olwg a chyrraedd plant, yn ddymunol mewn cabinet diogel neu sied dan glo.
Cadwch offer gardd mewn cyflwr da ac allan o'r ffordd yn ddiogel.
Cadwch blant ac anifeiliaid anwes draw wrth ymgymryd â DIY neu jobsys garddio.
Osgowch anafiadau o faglu, llithro a disgyn drwy ddarparu canllawiau a rhwystrau diogelwch i newidiadau â lefelau'r ardd a sicrhau bod pob llwybr a grisiau yn lefel, sefydlog a heb fwsogl.
Cadwch farbiciws a choelcerthi draw o goes, adeiladau a ffensys.
Peidiwch byth â defnyddio paraffin ar farbiciw a pheidiwch byth â'u gadael heb oruchwyliaeth.
Dylid gosod a chynnal a chadw siglenni a fframiau dringo yn ddiogel. Peidiwch â'u rhoi ar arwynebedd caled.
Gwagiwch byllau padlo pan nad ydych yn eu defnyddio oherwydd gall plentyn foddi mewn ychydig gentimedrau o ddŵr.
Dylai pyllau gardd gael eu llenwi (neu eu ffensio'n ddiogel) pan fo plant yn fach.
Byddwch yn ofalus wrth ymweld â gerddi pobl eraill.
Goruchwyliwch blant yn enwedig wrth ymweld â ffrindiau neu berthnasau gyda phyllau.
Dylai trampolinau fod â rhwydi a phadiau diogelwch ac wedi'u lleoli i ffwrdd o waliau, lein ddillad ac arwynebedd caled.
Fod gennych hawl i adolygu eich meddyginiaethau gyda'ch fferyllydd lleol am ddim.
Gall diet cytbwys, iach, ymarfer corff yn amlach a cholli pwysau pe bai angen rwystro datblygu'r clefyd siwgr.
Gall pobl ifanc rhwng 13 a 25 oed gael cyngor cyfrinachol ynghylch iechyd rhywiol a derbyn condomau am ddim oddi wrth y Cynllun Cerdyn Condom Caerdydd.
Gallai lleihau faint o halen sydd yn eich bwyd o 9g i 6g leihau pwysau gwaed.
Mae camddefnyddio alcohol wedi golygu bod rhyw 33,000 o bobl yng Nghymru a Lloegr wedi gorfod mynd i'r ysbyty am eu bod yn dioddef o glefyd yr afu oherwydd alcohol.
Gallai gwella'ch diet eich rhwystro rhag dioddef o draean o'r holl ganserau.
Mae gan dros 40% o blant 5 oed yng Nghaerdydd un neu fwy o ddannedd pwdr.
Ar hyn o bryd dywedir fod dros hanner poblogaeth Caerdydd dros bwysau neu'n ordew.
Os ydych yn gyrru ar ôl yfed dwywaith y terfyn alcohol cyfreithiol rydych chi 30 gwaith mwy tebygol o achosi damwain ar y ffordd, na gyrrwr sydd heb yfed.
Mae tystiolaeth yn dangos bod diet cytbwys iach, gweithgareddau corfforol a chadw pwysau iach yn effeithiol o ran osgoi a thrin gorbwysedd.
Mae bod yn ordew yn golygu y gallech chi farw rhyw 9 mlynedd ynghynt.
Gall ymarfer corff rheolaidd helpu'n sylweddol os ydych chi'n teimlo'n isel eich ysbryd, dan bwysau neu'n bryderus.
Mae diet sy'n llawn ffrwythau a llysiau yn lleihau'r perygl o ddioddef oherwydd clefyd y galon.
Bydd 650 miliwn o'r bobl sy'n fyw heddiw, yn marw oherwydd tybaco.
Gallai bwyta darn ychwanegol o ffrwythau a llysiau y diwrnod olygu fod rhyw 4% yn llai o berygl o ddioddef clefyd y galon a 6% yn llai o berygl o ddioddef strôc.
Os ydych chi'n ymarfer corff yn rheolaidd, rydych chi'n 50% yn llai tebygol o fynd yn ordew.
Gellid arbed bron i £2000 y flwyddyn drwy roi'r gorau i ysmygu 20 sigar&eacure;t y dydd.
Os ydych chi'n ymarfer corff yn rheolaidd, rydych ryw 50% yn llai tebygol o ddatblygu clefyd y galon na'r bobl hynny na ydynt yn ymarfer corff.
Trwy ymarfer corff yn rheolaidd rydych yn lleihau'r perygl o ddatblygu osteoporosis.
Mae wedi'i brofi fod ysmygu yn ystod cyfnod beichiogrwydd yn un o achosion marwolaeth grud.
Yng Nghymru, amcangyfrifir bod peidio ag ymarfer corff yn costio rhyw £650 miliwn y flwyddyn i'r gwasanaeth iechyd a'r economi yn gyffredinol.
Mae'r 6,000 o ddynion sy'n marw o glefyd y galon bob blwyddyn yn uniongyrchol oherwydd alcohol.
Dim ond 26% o oedolion yng Nghaerdydd sy'n gwneud hanner awr o ymarfer corff 5 diwrnod yr wythnos.