Fy Iechyd
Diogelwch yn y Cartref i Bobl Hŷn
Pobl hŷn yw un o'r grwpiau sydd fwyaf agored i ddamweiniau, yn enwedig yn y cartref ac o'i gwmpas.
Llithro, baglu a chwympo:
- Osgowch adael eitemau ar y grisiau.
- Sicrhewch fod y grisiau a'r llawr yn cael eu cadw'n dda.
- Osgowch batrymau carped ailadroddus a all ddrysu pobl â golwg gwael.
- Bydd amlygu ymylon allanol grisiau gyda phaent gwyn di-lithr yn eu gwneud yn fwy gweladwy.
- Dylid goleuo'r cartref yn dda gyda switsys golau dwy ffordd ar risiau.
- Sicrhewch fod gennych olau wrth ymyl y gwely sy'n rhwydd i'w roi ymlaen yn y tywyllwch.
- Gosodwch gawell blwch llythyrau i osgoi plygu i gasglu llythyrau.
- Osgowch geblau sy'n llusgo a llawer o bethau ar draws ei gilydd.
- Defnyddiwch risiau yn lle sefyll ar gadair.
- Defnyddiwch esgidiau a sliperi sy'n ffitio'n dda.
Sgaldiadau / llosgiadau:
Mae pobl hŷn bedwar neu bum gwaith yn fwy tebygol o farw o losgiadau a sgaldiadau na'r boblogaeth gyfan. Mae prif ffynonellau gwres yn cynnwys rheiddiaduron, tanau trydanol a phoptai. Sicrhewch eich bod chi:
- Yn defnyddio fflecs tegell torchog neu degell diwifr yn unig.
- Yn defnyddio tegelli pig neu jwg.
- Berwch y dŷr sydd ei angen arnoch yn unig.
- Peidiwch â chario hylifau poeth yn bellach nag sydd angen.
- Sicrhewch nad yw tymheredd y dŷr adeg trosglwyddo yn uwch na 46°C.
- Gosodwch falf cymysgu thermostatig.
- Trowch y dŷr oer ymlaen gyntaf wrth redeg bath.
- Defnyddiwch blatiau poeth cefn ar bopty bob tro.
- Trowch handlenni padelli i ffwrdd o flaen y popty.
- Sicrhewch nad yw poteli dŷr poeth yn dangos arwyddion o wisgo.
Gwenwyno:
- Sicrhewch fod dyfeisiau llosgi tanwydd yn cael eu gwirio'n rheolaidd gan arbenigwr oherwydd gall carbon monocsid ladd.
- Sicrhewch fod offer nwy yn cael eu gwasanaethu'n flynyddol gan beiriannydd gwresogi cofrestredig Gas Safe.
- Sicrhewch fod eich simneiau a ffliwiau yn cael eu sgubo unwaith y flwyddyn.
- Cofiwch os yw fflam nwy sydd fel arfer yn llosgi'n las yn troi'n oren gall hyn olygu bod gormod o garbon monocsid.
Dolenni Diogelwch yn y Cartref i Bobl Hŷn:
» Age UK
Gofal a Thrwsio
Mae Asiantaeth Gofal ac Atgyweirio Caerdydd yn gwneud llawer o waith i helpu a chefnogi pobl hŷn i ganfod risgiau a pheryglon yn eu cartrefi yn ogystal â darparu datrysiadau i liniaru neu leihau'r risgiau hynny. Mae eu gwasanaeth gwaith achos yn ymweld â phobl hŷn yn eu cartrefi ac yn darparu gwiriadau 'Cartref Iach' i ganfod peryglon a risgiau posibl. Os canfyddir peryglon maent yn gallu cefnogi cleientiaid i ymgymryd â gwaith atgyweirio, addasu neu gynnal a chadw i gael gwared ar neu leihau effeithiau risgiau pethau fel golau gwael; gwres annigonol neu anfforddiadwy; lleithder neu fowld; lefelau uchel o garbon monocsid; disgyniadau; peryglon trydanol; peryglon tân, cwymp strwythurol neu fynediad gan ymyrwyr. Gallant ddarparu arbenigedd dechnegol a chyngor i ymdrin â'r materion hyn yn ogystal â'r dyfeisgarwch i gyrchu nawdd posibl at gyfer y gwaith angenrheidiol. I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch 029 2047 3337, neu anfonwch e-bost i careandrepair@ccha.org.uk.
Teleofal a Gwasanaeth Larwm Cymunedol Gall y Gwasanaeth Larwm Cymunedol
Teleofal a Gwasanaeth Larwm Cymunedol Gall y Gwasanaeth Larwm Cymunedol chwarae rôl allweddol wrth amddiffyn pobl sy'n agored i niwed yng Nghaerdydd.
Amrywiaeth o synwyryddion sy'n canfod peryglon a digwyddiadau yw Teleofal. Gall y synwyryddion ddatgelu problemau gyda'r amgylchedd - er enghraifft diangfeydd nwy neu gyda'r person sy'n agored i niwed ei hun - er enghraifft cwympiadau. Os ydych yn credu y gallech chi, neu rywun yr ydych yn ei adnabod, gael budd o wasanaeth Teleofal, cysylltwch â Thîm Cyswllt ac Asesu gwasanaethau oedolion ar 029 2053 6444 neu anfonwch e-bost i ascontactteam@cardiff.gov.uk.
Mae pobl o bob oed ac amgylchiadau yn defnyddio'r Gwasanaeth Larwm Cymunedol ar gyfer y diogelwch a'r tawelwch meddwl a ddarperir. Er bod nifer o'r defnyddwyr yn bobl hŷn, mae'r gwasanaeth hefyd yn gofalu am bobl sy'n teimlo'n agored i niwed oherwydd anabledd, cyflwr meddygol neu aflonyddwch. I gael rhagor o wybodaeth am y Gwasanaeth Larwm Cymunedol cysylltwch â Gwasanaeth Larwm Cymunedol Caerdydd ar 029 2061 4852, neu e-bostiwch communityalarm@cardiff.gov.uk.



