Fy Iechyd

Herio'r Haul

 

Diogelwch yn yr Haul

Cancr y croen yw un o'r cancrau mwyaf cyffredin yn y DU. Dywed arbenigwyr y gall un achos o losg haul difrifol ym 15 mlynedd gyntaf plentyn ddyblu eu risg o gancr y croen.

Mae dau fath o belydr yr haul a all ddifrodi - UVA a UVB. Y pelydrau hyn sy'n gallu achosi difrod eraill i'n croen ar ffurf llosg haul neu heneiddio.

Byddwch yn ddiogel yn yr haul drwy ddefnyddio'r cynghorion hyn:

Arhoswch yn y cysgod rhwng 11am a 3pm (y rhan poethaf o'r diwrnod)
Sicrhewch nad ydych byth yn llosgi
Gwarchodwch eich hun rhag yr haul
Cofiwch fod yn ofalus iawn gyda phlant
Cymerwch gyda chi a defnyddiwch eli haul ffactor 15+

Mae plant yn dueddol o dreulio mwy o amser tu allan nag oedolion ac mae eu croen yn arbennig o sensitif ac yn llosgi'n rhwydd. Oherwydd hyn mae angen eu hamddiffyn p'un ai gartref neu dramor.

 

Rhagor o gynghorion ar sut i gadw plant yn ddiogel yn yr haul:

  • Cadwch fabis dan chwe mis oed o'r haul bob amser. Mae UV ar ei gryfaf dan awyr ddigwmwl, hyd yn oed os yw'r tymheredd yn isel neu fod gwynt oer.
  • Cadwch eich plentyn yn y cysgod, ond cofiwch ei bod yn bosibl cael llosg haul dan gwmwl ysgafn.
  • Gwisgwch eli haul ffactor uchel (o leiaf 15+) bob amser a rhoi rhagor ymlaen yn rheolaidd ac ar ôl nofio. Dylai pob plentyn, waeth pa mor dywyll yw eu croen, wisgo eli haul.
  • Rhowch grys-t neu ddillad cotwm llac a het haul ar eich plentyn.
  • Sicrhewch fod hetiau haul a chapiau pig yn gorchuddio cefn y gwddf.
  • Mae sbectol haul yn amddiffyn y llygad ac yn erbyn UV a adlewyrchir oddi ar y dŵr. Sicrhewch fod y sbectol haul yn amddiffyn yn erbyn pelydrau UVA a UVB.
  • I osgoi dadhydradu sicrhewch fod plant yn cael diod yn rheolaidd, gorau oll os yw'r ddŵr, wrth chwarae yn yr haul.
  • Gall siwtiau haul sy'n gorchuddio'r corff fod yn syniad da gan eu bod yn cynnig amddiffyniad da i'r ysgwyddau a'r coesau.

 

Dolenni Diogelwch yn yr Haul

» SunSmart - Cancer Research UK

 

» Yn ôl i'r brig

Wyddech chi

  •    Fod gennych hawl i adolygu eich meddyginiaethau gyda'ch fferyllydd lleol am ddim.
  •    Gall diet cytbwys, iach, ymarfer corff yn amlach a cholli pwysau pe bai angen rwystro datblygu'r clefyd siwgr.
  •    Gall pobl ifanc rhwng 13 a 25 oed gael cyngor cyfrinachol ynghylch iechyd rhywiol a derbyn condomau am ddim oddi wrth y Cynllun Cerdyn Condom Caerdydd.
  •    Gallai lleihau faint o halen sydd yn eich bwyd o 9g i 6g leihau pwysau gwaed.
  •    Mae camddefnyddio alcohol wedi golygu bod rhyw 33,000 o bobl yng Nghymru a Lloegr wedi gorfod mynd i'r ysbyty am eu bod yn dioddef o glefyd yr afu oherwydd alcohol.
  •    Gallai gwella'ch diet eich rhwystro rhag dioddef o draean o'r holl ganserau.
  •    Mae gan dros 40% o blant 5 oed yng Nghaerdydd un neu fwy o ddannedd pwdr.
  •    Ar hyn o bryd dywedir fod dros hanner poblogaeth Caerdydd dros bwysau neu'n ordew.
  •    Os ydych yn gyrru ar ôl yfed dwywaith y terfyn alcohol cyfreithiol rydych chi 30 gwaith mwy tebygol o achosi damwain ar y ffordd, na gyrrwr sydd heb yfed.
  •    Mae tystiolaeth yn dangos bod diet cytbwys iach, gweithgareddau corfforol a chadw pwysau iach yn effeithiol o ran osgoi a thrin gorbwysedd.
  •    Mae bod yn ordew yn golygu y gallech chi farw rhyw 9 mlynedd ynghynt.
  •    Gall ymarfer corff rheolaidd helpu'n sylweddol os ydych chi'n teimlo'n isel eich ysbryd, dan bwysau neu'n bryderus.
  •    Mae diet sy'n llawn ffrwythau a llysiau yn lleihau'r perygl o ddioddef oherwydd clefyd y galon.
  •    Bydd 650 miliwn o'r bobl sy'n fyw heddiw, yn marw oherwydd tybaco.
  •    Gallai bwyta darn ychwanegol o ffrwythau a llysiau y diwrnod olygu fod rhyw 4% yn llai o berygl o ddioddef clefyd y galon a 6% yn llai o berygl o ddioddef strôc.
  •    Os ydych chi'n ymarfer corff yn rheolaidd, rydych chi'n 50% yn llai tebygol o fynd yn ordew.
  •    Gellid arbed bron i £2000 y flwyddyn drwy roi'r gorau i ysmygu 20 sigar&eacure;t y dydd.
  •    Os ydych chi'n ymarfer corff yn rheolaidd, rydych ryw 50% yn llai tebygol o ddatblygu clefyd y galon na'r bobl hynny na ydynt yn ymarfer corff.
  •    Trwy ymarfer corff yn rheolaidd rydych yn lleihau'r perygl o ddatblygu osteoporosis.
  •    Mae wedi'i brofi fod ysmygu yn ystod cyfnod beichiogrwydd yn un o achosion marwolaeth grud.
  •    Yng Nghymru, amcangyfrifir bod peidio ag ymarfer corff yn costio rhyw £650 miliwn y flwyddyn i'r gwasanaeth iechyd a'r economi yn gyffredinol.
  •    Mae'r 6,000 o ddynion sy'n marw o glefyd y galon bob blwyddyn yn uniongyrchol oherwydd alcohol.
  •    Dim ond 26% o oedolion yng Nghaerdydd sy'n gwneud hanner awr o ymarfer corff 5 diwrnod yr wythnos.

Pethau Defnyddiol i'w Lawrlwytho

» WAG: Tywydd poeth (pdf)

» Cyngor Caerdydd: Gofal yn yr Haul (pdf)