Fy Iechyd

Diogelwch yn y Dŵr

Mae miloedd o bobl yn mwynhau treulio amser ar y traethau yng Nghymru bob blwyddyn. Ond ag ugain y cant o'r holl ddamweiniau boddi sy'n digwydd mewn dyfroedd arfordirol, drwy fod yn ymwybodol o'r peryglon gallwch sicrhau bod eich trip i'r traeth yn un hapus heb iddo droi'n drasiedi.

 

Cyngor cyffredinol:

  • Ewch i draeth ag achubwyr bywyd ar ddyletswydd.
  • Byddwch yn ymwybodol o'r llanw a cherrynt.
  • Byddwch yn ymwybodol o unrhyw greigiau, glanfeydd neu forgloddiau a all effeithio ar badlo ac ymdrochi.
  • Byddwch yn ymwybodol o unrhyw chwaraeon dŵr sy'n digwydd yno.
  • Defnyddiwch siaced achub bywyd sy'n ffitio'n dda neu ddyfais arnofio yn enwedig wrth fynd allan ar gwch neu fad hamdden arall.
  • Sicrhewch eich bod yn adnabod eich fflagiau!
Coch a Melyn - achubwyr bywyd ar batrôl a dwy fflag wrth ymyl y dŵr yn amgáu'r ardal sy'n cael ei phatrolio.
Coch - peryglus i nofio neu ymdrochi.
Du a Gwyn - ardal wedi cau ar gyfer chwaraeon dŵr.
  • Ewch gyda'ch gilydd - peidiwch â nofio ar eich pen eich hun.
  • Dylai plant fynd gydag oedolyn bob amser.
  • Sicrhewch eich bod yn gwybod lle mae pawb.
  • Goruchwyliaeth gyson yw'r unig ffordd o sicrhau diogelwch eich plentyn, yn enwedig ar draeth prysur iawn.
  • Dysgwch sut i helpu - gwaeddwch am help a dywedwch wrth achubwr bywyd os oes problem. Os nad oes achubwr bywyd ewch at y ffôn agosaf, ffoniwch 999 a gofynnwch am wyliwr y glannau.
  • Peidiwch â rhoi eich hun mewn perygl drwy fynd i'r dŵr i geisio achub rhywun.

 

Edrychwch ar y Cod Diogelwch yn y Dŵr yn www.rospa.com

Cliciwch ar y dolenni ar gyfer "Leisure Safety Information", "Water Safety Information" a gallwch ddarllen y cod dan "Water Safety for Children and Young People".

Am ragor o wybodaeth ar ddysgu sut i nofio neu i gael gwersi nofio ewch i wefan Cymdeithas Nofio Amatur Cymru ar www.welshasa.co.uk neu ewch i'ch canolfan hamdden leol.

 

Dolenni Diogelwch yn y Dŵr

» Royal National Lifeboat Institution

» Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau

» Fforwm Diogelwch yn y Dŵr Cenedlaethol

» Royal Life Saving Society UK

 

 

» Yn ôl i'r brig

Wyddech chi

  •    Fod gennych hawl i adolygu eich meddyginiaethau gyda'ch fferyllydd lleol am ddim.
  •    Gall diet cytbwys, iach, ymarfer corff yn amlach a cholli pwysau pe bai angen rwystro datblygu'r clefyd siwgr.
  •    Gall pobl ifanc rhwng 13 a 25 oed gael cyngor cyfrinachol ynghylch iechyd rhywiol a derbyn condomau am ddim oddi wrth y Cynllun Cerdyn Condom Caerdydd.
  •    Gallai lleihau faint o halen sydd yn eich bwyd o 9g i 6g leihau pwysau gwaed.
  •    Mae camddefnyddio alcohol wedi golygu bod rhyw 33,000 o bobl yng Nghymru a Lloegr wedi gorfod mynd i'r ysbyty am eu bod yn dioddef o glefyd yr afu oherwydd alcohol.
  •    Gallai gwella'ch diet eich rhwystro rhag dioddef o draean o'r holl ganserau.
  •    Mae gan dros 40% o blant 5 oed yng Nghaerdydd un neu fwy o ddannedd pwdr.
  •    Ar hyn o bryd dywedir fod dros hanner poblogaeth Caerdydd dros bwysau neu'n ordew.
  •    Os ydych yn gyrru ar ôl yfed dwywaith y terfyn alcohol cyfreithiol rydych chi 30 gwaith mwy tebygol o achosi damwain ar y ffordd, na gyrrwr sydd heb yfed.
  •    Mae tystiolaeth yn dangos bod diet cytbwys iach, gweithgareddau corfforol a chadw pwysau iach yn effeithiol o ran osgoi a thrin gorbwysedd.
  •    Mae bod yn ordew yn golygu y gallech chi farw rhyw 9 mlynedd ynghynt.
  •    Gall ymarfer corff rheolaidd helpu'n sylweddol os ydych chi'n teimlo'n isel eich ysbryd, dan bwysau neu'n bryderus.
  •    Mae diet sy'n llawn ffrwythau a llysiau yn lleihau'r perygl o ddioddef oherwydd clefyd y galon.
  •    Bydd 650 miliwn o'r bobl sy'n fyw heddiw, yn marw oherwydd tybaco.
  •    Gallai bwyta darn ychwanegol o ffrwythau a llysiau y diwrnod olygu fod rhyw 4% yn llai o berygl o ddioddef clefyd y galon a 6% yn llai o berygl o ddioddef strôc.
  •    Os ydych chi'n ymarfer corff yn rheolaidd, rydych chi'n 50% yn llai tebygol o fynd yn ordew.
  •    Gellid arbed bron i £2000 y flwyddyn drwy roi'r gorau i ysmygu 20 sigar&eacure;t y dydd.
  •    Os ydych chi'n ymarfer corff yn rheolaidd, rydych ryw 50% yn llai tebygol o ddatblygu clefyd y galon na'r bobl hynny na ydynt yn ymarfer corff.
  •    Trwy ymarfer corff yn rheolaidd rydych yn lleihau'r perygl o ddatblygu osteoporosis.
  •    Mae wedi'i brofi fod ysmygu yn ystod cyfnod beichiogrwydd yn un o achosion marwolaeth grud.
  •    Yng Nghymru, amcangyfrifir bod peidio ag ymarfer corff yn costio rhyw £650 miliwn y flwyddyn i'r gwasanaeth iechyd a'r economi yn gyffredinol.
  •    Mae'r 6,000 o ddynion sy'n marw o glefyd y galon bob blwyddyn yn uniongyrchol oherwydd alcohol.
  •    Dim ond 26% o oedolion yng Nghaerdydd sy'n gwneud hanner awr o ymarfer corff 5 diwrnod yr wythnos.