Mae defnyddio'r rhyngrwyd wedi dod yn ffordd hwyliog o gadw mewn cysylltiad gyda ffrindiau a theulu. Mae nifer o ffyrdd o wneud hyn, gan gynnwys negeseua gwib (IM), ystafelloedd sgwrsio a blogiau trwodd. Mae rhai pobl wedi gwneud ffrindiau dros y rhyngrwyd ond mae hefyd rhai pobl gas sy'n defnyddio'r rhyngrwyd felly mae angen i chi sicrhau eich bod chi'n cadw eich hun yn ddiogel wrth gael hwyl.
Rhwydweithio Cymdeithasol:
Mae mwy o bobl ifanc yn defnyddio safleoedd megis Facebook a Bebo ond heb ddefnyddio'r gosodiadau preifatrwydd cywir. Cofiwch ddilyn y cynghorion hyn:
Wrth sefydlu'r safleoedd hyn defnyddiwch y gosodiad "ffrindiau yn unig" fel mai dim ond eich ffrindiau all weld y wybodaeth.
Peidiwch â rhoi unrhyw wybodaeth breifat am eich hunan ar eich tudalen megis eich cyfeiriad neu rif ffôn.
Sicrhewch eich bod yn gwybod sut i atal unigolion rhag gweld eich gwybodaeth.
Sgwrsio:
Mae llawer o ffyrdd y gallwch fod yn ofalus wrth siarad â phobl ar y rhyngrwyd. Dyma rai o'r pethau y dylech eu gwneud:
Gofynnwch i'ch mam, tad neu bwy bynnag sy'n gofalu amdanoch os gallwch siarad â phobl ar y rhyngrwyd. Gallan nhw eich helpu i'w wneud yn ddiogel.
Defnyddiwch lysenw yn lle eich enw go iawn wrth ddefnyddio ystafelloedd sgwrsio neu negeseuwyr gwib.
Cadwch eich cyfrinair yn ddiogel a pheidiwch â dweud wrth unrhyw un arall.
Peidiwch byth â rhoi eich manylion personol i unrhyw un nad ydych yn eu hadnabod yn y byd go iawn, yn enwedig eich cyfeiriad, rhif ffôn neu ysgol.
Peidiwch byth ag anfon eich llun, manylion banc neu fanylion cerdyn credyd heb wirio gydag oedolyn cyfrifol yn y lle cyntaf.
Gofynnwch i'ch mam, tad neu athro i'ch helpu os ydych yn dechrau sgwrsio â phobl newydd ar y cyfrifiadur. Gallant sicrhau eich bod chi'n llenwi unrhyw ffurflenni yn gywir a diogel.
Efallai na fydd rhai pobl ar y rhyngrwyd yn dweud y gwir am bwy ydynt. Nid yw'n syniad da cwrdd ag unrhyw un yr ydych ond yn eu hadnabod o siarad â hwy ar y cyfrifiadur.
Byddwch yn ofalus mewn ystafelloedd sgwrsio. Hyd yn oed os yw'n nodi mai ystafell sgwrsio ar gyfer pobl ifanc ydyw nid oes modd dweud os mai pobl ifanc yn unig sy'n ei defnyddio. Gallai fod yn rhywun sy'n ceisio'ch twyllo chi.
Pe bai rhywun yn dweud rhywbeth sy'n gwneud i chi deimlo'n anghyffyrddus neu'n bryderus gadewch yr ystafell sgwrsio. Sicrhewch eich bod yn dweud wrth rywun fel eich Mam, Tad neu ofalwr.
Fod gennych hawl i adolygu eich meddyginiaethau gyda'ch fferyllydd lleol am ddim.
Gall diet cytbwys, iach, ymarfer corff yn amlach a cholli pwysau pe bai angen rwystro datblygu'r clefyd siwgr.
Gall pobl ifanc rhwng 13 a 25 oed gael cyngor cyfrinachol ynghylch iechyd rhywiol a derbyn condomau am ddim oddi wrth y Cynllun Cerdyn Condom Caerdydd.
Gallai lleihau faint o halen sydd yn eich bwyd o 9g i 6g leihau pwysau gwaed.
Mae camddefnyddio alcohol wedi golygu bod rhyw 33,000 o bobl yng Nghymru a Lloegr wedi gorfod mynd i'r ysbyty am eu bod yn dioddef o glefyd yr afu oherwydd alcohol.
Gallai gwella'ch diet eich rhwystro rhag dioddef o draean o'r holl ganserau.
Mae gan dros 40% o blant 5 oed yng Nghaerdydd un neu fwy o ddannedd pwdr.
Ar hyn o bryd dywedir fod dros hanner poblogaeth Caerdydd dros bwysau neu'n ordew.
Os ydych yn gyrru ar ôl yfed dwywaith y terfyn alcohol cyfreithiol rydych chi 30 gwaith mwy tebygol o achosi damwain ar y ffordd, na gyrrwr sydd heb yfed.
Mae tystiolaeth yn dangos bod diet cytbwys iach, gweithgareddau corfforol a chadw pwysau iach yn effeithiol o ran osgoi a thrin gorbwysedd.
Mae bod yn ordew yn golygu y gallech chi farw rhyw 9 mlynedd ynghynt.
Gall ymarfer corff rheolaidd helpu'n sylweddol os ydych chi'n teimlo'n isel eich ysbryd, dan bwysau neu'n bryderus.
Mae diet sy'n llawn ffrwythau a llysiau yn lleihau'r perygl o ddioddef oherwydd clefyd y galon.
Bydd 650 miliwn o'r bobl sy'n fyw heddiw, yn marw oherwydd tybaco.
Gallai bwyta darn ychwanegol o ffrwythau a llysiau y diwrnod olygu fod rhyw 4% yn llai o berygl o ddioddef clefyd y galon a 6% yn llai o berygl o ddioddef strôc.
Os ydych chi'n ymarfer corff yn rheolaidd, rydych chi'n 50% yn llai tebygol o fynd yn ordew.
Gellid arbed bron i £2000 y flwyddyn drwy roi'r gorau i ysmygu 20 sigar&eacure;t y dydd.
Os ydych chi'n ymarfer corff yn rheolaidd, rydych ryw 50% yn llai tebygol o ddatblygu clefyd y galon na'r bobl hynny na ydynt yn ymarfer corff.
Trwy ymarfer corff yn rheolaidd rydych yn lleihau'r perygl o ddatblygu osteoporosis.
Mae wedi'i brofi fod ysmygu yn ystod cyfnod beichiogrwydd yn un o achosion marwolaeth grud.
Yng Nghymru, amcangyfrifir bod peidio ag ymarfer corff yn costio rhyw £650 miliwn y flwyddyn i'r gwasanaeth iechyd a'r economi yn gyffredinol.
Mae'r 6,000 o ddynion sy'n marw o glefyd y galon bob blwyddyn yn uniongyrchol oherwydd alcohol.
Dim ond 26% o oedolion yng Nghaerdydd sy'n gwneud hanner awr o ymarfer corff 5 diwrnod yr wythnos.