Fy Iechyd

Diogelwch yn y Gwaith

Disgyn a gwrthdaro yw'r achosion anaf mwyaf cyffredinol mewn swyddfeydd gyda chymaint yn digwydd ar yr un lefel â'r rhai ar risiau. Mae codi a chario, damweiniau gyda dodrefn a chydag offer a pheirianwaith hefyd yn gyffredin.

 

Llithro, baglu, cwympo a gwrthdaro:

  • Cadwch yr ardal yn daclus.
  • Osgowch geblau sy'n llusgo.
  • Cliriwch unrhyw hylifau sydd wedi gollwng.
  • Gosodwch unrhyw garpedi sydd wedi codi yn ôl i lawr.
  • Peidiwch â dringo unrhyw risiau, desgiau neu gypyrddau.
  • Defnyddiwch y canllaw grisiau bob amser.
  • Peidiwch â chario gormod i fyny neu i lawr y grisiau.
  • Peidiwch â darllen wrth ddefnyddio'r grisiau neu gerdded o gwmpas.
  • Peidiwch â rhedeg, cerddwch.
  • Byddwch yn ofalus â diodydd poeth.

 

Codi a chario:

  • Peidiwch â chodi eitemau oni bai fod rhaid i chi.
  • Os oes tryc neu droli ar gael, defnyddiwch e!
  • Gofynnwch am help.

 

Arferion codi diogel:

  • Sefwch yn agos at y llwyth a chanolwch eich hun drosto gyda'ch traed ac ysgwyddau rhyw led ar wahân.
  • Tynhewch gyhyrau eich abdomen.
  • Cadwch eich cefn yn syth, plygwch eich pengliniau a chyrcydu i lawr i'r llawr.
  • Ceisiwch afael yn gadarn yn y llwyth gyda'ch dwy law.
  • Cadwch y llwyth yn agos i'ch corff a defnyddiwch gyhyrau'ch coesau i sefyll i fyny gan godi'r llwyth oddi ar y llawr.
  • Dylai eich cefn aros yn syth gydol y codi, gan ddefnyddio'r cyhyrau yn y coesau yn unig i godi'r llwyth.
  • Peidiwch â throi eich corff wrth symud y llwyth. Yn hytrach cymerwch gamau bychain gyda'r traed yn troi hyd nes eich bod yn y safle cywir.
  • Eto plygwch wrth y pengliniau gan ddefnyddio cyhyrau'ch coesau yn unig a rhowch y llwyth yn y man priodol.

 

Dodrefn:

  • Gwnewch y defnydd gorau o'r man sydd ar gael.
  • Gosodwch gabinetau ffeilio i roi lle digonol pan fo drâr ar agor.
  • Gwasgarwch lwythi dros y cabinetau i'w hatal rhag troi drosodd.
  • Agorwch y drarau un ar y tro.
  • Caewch y drarau a'r drysau pan nad ydych yn eu defnyddio.

 

Peirianwaith ac offer:

  • Defnyddiwch beirianwaith â pharch a dilynwch gyfarwyddiadau.
  • Peidiwch â defnyddio peiriannau heb hyfforddiant neu oruchwyliaeth.
  • Adroddwch unrhyw ddiffygion a damweiniau.
  • Diffoddwch beiriannau ar ôl eu defnyddio.
  • Byddwch yn ofalus wrth ymdrin â chemegau.
  • Byddwch yn ofalus gydag offer fel cyllyll a siswrn.

Am ragor o wybodaeth am gyfrifoldebau cyfreithiol cyflogwyr a gweithwyr cysylltwch â'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch neu eich adran Iechyd yr Amgylchedd.

 

 

» Yn ôl i'r brig

Wyddech chi

  •    Fod gennych hawl i adolygu eich meddyginiaethau gyda'ch fferyllydd lleol am ddim.
  •    Gall diet cytbwys, iach, ymarfer corff yn amlach a cholli pwysau pe bai angen rwystro datblygu'r clefyd siwgr.
  •    Gall pobl ifanc rhwng 13 a 25 oed gael cyngor cyfrinachol ynghylch iechyd rhywiol a derbyn condomau am ddim oddi wrth y Cynllun Cerdyn Condom Caerdydd.
  •    Gallai lleihau faint o halen sydd yn eich bwyd o 9g i 6g leihau pwysau gwaed.
  •    Mae camddefnyddio alcohol wedi golygu bod rhyw 33,000 o bobl yng Nghymru a Lloegr wedi gorfod mynd i'r ysbyty am eu bod yn dioddef o glefyd yr afu oherwydd alcohol.
  •    Gallai gwella'ch diet eich rhwystro rhag dioddef o draean o'r holl ganserau.
  •    Mae gan dros 40% o blant 5 oed yng Nghaerdydd un neu fwy o ddannedd pwdr.
  •    Ar hyn o bryd dywedir fod dros hanner poblogaeth Caerdydd dros bwysau neu'n ordew.
  •    Os ydych yn gyrru ar ôl yfed dwywaith y terfyn alcohol cyfreithiol rydych chi 30 gwaith mwy tebygol o achosi damwain ar y ffordd, na gyrrwr sydd heb yfed.
  •    Mae tystiolaeth yn dangos bod diet cytbwys iach, gweithgareddau corfforol a chadw pwysau iach yn effeithiol o ran osgoi a thrin gorbwysedd.
  •    Mae bod yn ordew yn golygu y gallech chi farw rhyw 9 mlynedd ynghynt.
  •    Gall ymarfer corff rheolaidd helpu'n sylweddol os ydych chi'n teimlo'n isel eich ysbryd, dan bwysau neu'n bryderus.
  •    Mae diet sy'n llawn ffrwythau a llysiau yn lleihau'r perygl o ddioddef oherwydd clefyd y galon.
  •    Bydd 650 miliwn o'r bobl sy'n fyw heddiw, yn marw oherwydd tybaco.
  •    Gallai bwyta darn ychwanegol o ffrwythau a llysiau y diwrnod olygu fod rhyw 4% yn llai o berygl o ddioddef clefyd y galon a 6% yn llai o berygl o ddioddef strôc.
  •    Os ydych chi'n ymarfer corff yn rheolaidd, rydych chi'n 50% yn llai tebygol o fynd yn ordew.
  •    Gellid arbed bron i £2000 y flwyddyn drwy roi'r gorau i ysmygu 20 sigar&eacure;t y dydd.
  •    Os ydych chi'n ymarfer corff yn rheolaidd, rydych ryw 50% yn llai tebygol o ddatblygu clefyd y galon na'r bobl hynny na ydynt yn ymarfer corff.
  •    Trwy ymarfer corff yn rheolaidd rydych yn lleihau'r perygl o ddatblygu osteoporosis.
  •    Mae wedi'i brofi fod ysmygu yn ystod cyfnod beichiogrwydd yn un o achosion marwolaeth grud.
  •    Yng Nghymru, amcangyfrifir bod peidio ag ymarfer corff yn costio rhyw £650 miliwn y flwyddyn i'r gwasanaeth iechyd a'r economi yn gyffredinol.
  •    Mae'r 6,000 o ddynion sy'n marw o glefyd y galon bob blwyddyn yn uniongyrchol oherwydd alcohol.
  •    Dim ond 26% o oedolion yng Nghaerdydd sy'n gwneud hanner awr o ymarfer corff 5 diwrnod yr wythnos.