» Gofal a Thrwsio Cymru
Mae asiantaeth Caerdydd yn cynnig help a chefnogaeth i bobl hŷn i ganfod tasgau a pheryglon yn eu cartrefi yn ogystal â darparu datrysiadau i liniaru neu leihau'r risgiau hynny.
Ffôn: 029 2047 3337
E-bost: careandrepair@ccha.org.uk
» Telecare and the Community Alarm Service
Gall y Gwasanaeth Larwm Cymunedol chwarae rôl allweddol wrth amddiffyn pobl sy'n agored i niwed yng Nghaerdydd. Ar gyfer Teleofal cysylltwch â Thîm Cyswllt ac Asesu y Gwasanaethau Oedolion ar 029 2053 6444 neu e-bostiwch: ascontactteam@cardiff.gov.uk. I gael rhagor o wybodaeth am y Gwasanaeth Larwm Cymunedol ffoniwch: 029 2061 neu E-bostiwch communityalarm@cardiff.gov.uk
» Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
Mae gwiriadau diogelwch tân ar gael a rhoddir cyngor personol i chi ar sut i leihau'r perygl o dân, cyngor ar sut i adael argyfwng a lle bo angen, byddant yn cyflenwi a gosod larymau mwg. Mae'r gwasanaeth hwn am ddim ac ar gael i bawb. Cysylltwch â'r Gwasanaeth Tân ac Achub ar 0800 169 1234 i drefnu ymweliad.
» Ambiwlans St John
Cyrsiau cymorth cyntaf a iechyd a diogelwch ar gyfer y gweithlu, y cyhoedd, pobl ifanc a'r rhai sy'n gweithio â phobl ifanc. Mae manylion am gyrsiau lleol ar gael ar eu gwefan.
» The Royal Society for the Prevention of Accidents (RoSPA)
Gwasanaeth hyfforddiant iechyd a diogelwch cyflawn o sgiliau ymarferol i gymwysterau rheoli a phroffesiynol. Mae manylion am gyrsiau lleol ar gael ar eu gwefan..
» Diogelwch y Ffyrdd Cymru
Nifer o adnoddau y mae modd eu lawrlwytho gan gynnwys cymorth ar y fenter Cerdded i'r Ysgol. Mae cyngor hefyd ar gael ar gyfer diogelwch seiclo, kerbcraft ac ataliadau plant. Dilynwch y ddolen ar gyfer "Adnoddau" ar eu gwefan.
» Child Accident Prevention Trust
Ystod eang o daflenni ffeithiau a gweithgareddau, cwisiau a gemau ar-lein ar gyfer rhieni a phlant. Dilynwch y ddolen ar gyfer "Resources" ar eu gwefan..



