Fy Iechyd

Gweithgarwch Corfforol

Mae bod yn gorfforol actif yn hanfodol ar gyfer iechyd da. Gall dilyn ffordd o fyw heini helpu i reoli eich pwysau, gwella'ch lles cyffredinol ac atal rhai afiechydon. Wrth wneud ymarfer corff, ceisiwch ddod o hyd i rywbeth rydych yn ei fwynhau, boed hynny'n cerdded, garddio, seiclo, dawnsio neu chwaraeon wedi'i drefnu. Os ydych yn mwynhau'r hyn rydych yn ei wneud, rydych yn fwy tebygol o ddal ati.

 

» Yn ôl i'r brig

 

Beth yw manteision bod yn gorfforol actif?

Gall cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol rheolaidd helpu pobl i deimlo'n well mewn nifer o ffyrdd. Gall:

  • fod yn gyfeillgar a chymdeithasol
  • bod am ddim
  • eich helpu i golli pwysau (edrychwch hefyd ar ein tudalen Bwyta'n Iach)
  • eich helpu i wella eich iechyd cyffredinol
  • helpu i leihau straen a lleddfu iselder ysbryd gan eich helpu i ymlacio a chysgu'n well
  • gwella symudedd, cydbwysedd a nerth cyhyrau
  • hybu'r ymdeimlad cyffredinol o deimlo'n iach
  • arbed rhai afiechydon
  • lleihau'r risg o glefyd y galon, math 2 o glefyd y siwgr, osteoporosis, gordewdra a chael anaf wrth syrthio
  • eich helpu i fwynhau eich gweithgareddau gyda theulu a ffrindiau.

» Yn ôl i'r brig

 

Faint o weithgarwch y dylwn ei wneud?

Mae pawb yn wahanol ac ni ddylech gymharu eich hun ag eraill yn ormodol - dylech ymarfer ar eich cyflymdra eich hun ac ar lefel sy'n gyfforddus i chi. Fodd bynnag, er mwyn cael buddiannau iechyd wrth ymarfer, dylech fod yn anadlu ychydig yn gyflymach ac yn teimlo'n gynhesach na'r hyn sy'n arferol i chi.

Oedolion

Mae canllaw presennol yr Adran Iechyd (2004) yn argymell bod oedolion yn cronni 30 munud o weithgarwch corfforol cymedrol, dwys o leiaf bum gwaith yr wythnos (5 x 30). Y pwyntiau allweddol sylfaenol yn y canllaw yw:

  • Ystyr gweithgarwch cymedrol yw anadlu ychydig yn gyflymach a theimlo ychydig yn gynhesach na'r arfer e.e. mynd am dro cyflym
  • Gall 30 munud gael ei gronni drwy gydol y dydd mewn cyfnodau byr o 10-15 munud
  • Mae amrywiaeth eang o weithgareddau yn llesol gan gynnwys cerdded, seiclo, dawnsio, garddio ac ati
  • Y canllawiau yma yw'r lleiaf y dylid ei wneud er mwyn cael buddiannau iechyd

Plant a Phobl Ifanc

Mae angen mwy o ymarfer corff ar blant a phobl ifanc ac felly mae'r Adran Iechyd yn argymell eu bod yn gwneud ymarfer corff cymedrol am o leiaf awr bob dydd (5 x 60). Gellir gwneud hyn drwy amrywio'r gweithgareddau drwy gydol y dydd, gan gynnwys chwaraeon a drefnir, chwarae, cerdded i'r ysgol, addysg gorfforol neu ymarfer a gynllunnir ymlaen llaw.

» Yn ôl i'r brig

 

Beth y gallaf ei wneud i fod yn actif yng Nghaerdydd?

Mae nifer o ffyrdd o ymarfer a nifer o lefelau gwahanol i'w wneud. Nid oes rhaid i fwy o weithgarwch corfforol yn eich trefn ddyddiol fod yn faich. Mae'r llun isod yn dangos yr holl gyfleoedd sydd ar gael i fod yn actif.

Gweithgarwch Corfforol - Beth y gallaf ei wneud i fod yn actif

» Yn ôl i'r brig

 

Ychydig iawn o ymarfer rwy'n ei wneud a dwi ddim yn gwybod ble i ddechrau

Gall newid ychydig o bethau syml i'ch ffordd o fyw wneud gwahaniaeth mawr. Er enghraifft, ceisiwch gerdded yn lle cymryd y car i'r siopau lleol; cerddwch fyny'r grisiau yn lle dewis y lifft.

Os ydych eisiau rhywbeth ag ychydig mwy o drefn neu sy'n dilyn amserlen, beth am ymuno ag un o'r niferoedd o grwpiau cerdded yng Nghaerdydd e.e. Cerdded i Gadw'n Iach neu Cerddwyr Caerdydd.

Manteisiwch ar y nifer o fannau gwyrdd agored sydd gennym yng Nghaerdydd... nid oes rhaid i chi wario arian i gael ychydig o ymarfer corff. Edrychwch ar wefan Awyr Agored Caerdydd am restr A-Y o weithgareddau yn yr awyr agored a lleoedd i ymweld â nhw.

Ailafaelwch yn eich beic a rhowch gynnig ar seiclo i'r gwaith (dylech gael gwasanaeth arno yn gyntaf os nad ydych wedi ei ddefnyddio ers tro).

Ceisiwch wneud ymarfer corff yn rhan o'ch diwrnod gwaith - cerddwch neu seiclwch i'r gwaith (os ydych yn byw ym mhell o'ch gweithle, ceisiwch gerdded neu seiclo i'r orsaf drenau lleol).

» Yn ôl i'r brig

 

Hoffwn i gael rhagor o gyngor ar sut i ddechrau ymarfer corff neu sut i ailafael ynddo.

Os ydych yn pryderu am eich iechyd neu os oes anaf gennych ac rydych yn ansicr ynghylch ymarfer corff, cysylltwch â'ch meddyg teulu cyn dechrau. Os oes gennych anaf neu gyflwr meddygol, efallai na fydd hyn yn eich atal rhag gwneud ymarfer corff ...gofynnwch i'ch meddyg am y Cynllun Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff.

Mae nifer o gynlluniau yng Nghaerdydd yn cynnig cyngor ar sut i ddechrau ymarfer yn ddiogel:

Cerdded i Gadw'n Iach - project sydd wedi'i anelu at gael pobl i ddechrau neu ailafael mewn ymarfer corff rheolaidd drwy gerdded yn y parciau a'r mannau trefol o amgylch Caerdydd. Gall unrhyw un ymuno â'r cynllun a cheir nifer o deithiau cerdded gydag arweinwyr o amgylch y ddinas..
Cynllun Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff - gallwch gael eich atgyfeirio gan feddyg teulu i gymryd rhan mewn mwy o ymarfer corff a chael cyngor proffesiynol ar sut i ymarfer os oes gennych salwch ysgafn neu gymedrol e.e. pwysedd gwaed uchel, gorbryder neu straen.
Newid Ffordd o Fyw - project sy'n canolbwyntio ar gael pobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig i ddod yn fwy actif yn yr amgylchedd naturiol lleol.
Mentro Allan - project sy'n canolbwyntio ar gael pobl ag anabledd i ddod yn fwy actif yn yr amgylchedd naturiol lleol.
Pedal Power - project sy'n cynnig amrywiaeth o feiciau i'w llogi ar gyfer pob oed a gallu, gan gynnwys beiciau wedi'u haddasu'n benodol i sicrhau bod seiclo'n bosibl i bawb. Lleolir y project yng nghanol y ddinas, gyda mynediad at lwybrau di-draffig drwy barciau hyfryd Caerdydd a mynediad agos at lwybr Taith Taf. Ceir sesiynau gan wirfoddolwyr i bobl sydd angen cyd-seiclwr, ac mae sesiynau seiclo grŵp wythnosol hefyd ar gael. Mae ffisiotherapydd hefyd ar gael i asesu plant a phobl ifanc anabl yn benodol, a rhoi'r beic cywir iddynt gyda'r addasiadau angenrheidiol, a phennu rhaglen i'w dilyn.
Y Gampfa Werdd - ymunwch ag amrywiaeth o brojectau ymarferol sy'n rhoi'r cyfle i chi fynd i'r afael â thasgau corfforol yn yr awyr agored - gan wella'ch nerth a'ch stamina, rhoi hwb i'ch sgiliau ymarferol a'ch hyder a gwneud lles i'ch mannau gwyrdd lleol.
Gofynnwch i'ch Tîm Cymunedau yn Gyntafi weld pa weithgareddau sy'n digwydd yn eich ardal.

» Yn ôl i'r brig

 

Hoffwn wneud ymarfer corff ond nid wy'n hoffi chwaraeon tîm.

Nid yw gweithgarwch corfforol o anghenraid yn golygu chwaraeon. Gellir ei gyflawni mewn amrywiaeth o ffyrdd, fel cerdded, garddio, dawnsio ac ati.

  • Cymerwch fantais o'r sawl man agored gwryd yng Nghaerdydd. Does rhaid i chi wario arian i gael ymarfer eich corff... Edrychwch ar wefan Awyr Agored Caerdydd am restr A-Y o weithgareddau yn yr awyr agored a lleoedd i ymweld â nhw.
  • Ystyriwch fynd i ganolfan hamdden... gallwch gymryd rhan mewn nifer o weithgareddau, o badminton i nofio ac o aerobeg i'r gampfa. Edrychwch ar dudalennau hamdden Cyngor Caerdydd i weld cyfleuster wrth eich ymyl ac edrychwch ar y gronfa ddata weithgareddau i ganfod faint o'r gloch mae pethau'n digwydd. Mae'r Cyngor yn cynnig cyfraddau gostyngol i rai pobl - edrychwch ar y Cerdyn Max i weld a ydych yn gymwys. Mae Hamdden hefyd yn cynnig ystod o ddewisiadau talu gyda Chynllun Cerdyn Stretch
  • Mae nifer o glybiau chwaraeon yn gymdeithasol iawn, ac nid oes rhaid i chi gystadlu i fod yn aelod. Gofynnwch i Chwaraeon.Caerdydd neu Gyngor Chwaraeon Cymru am fwy o wybodaeth am glybiau lleol.

» Yn ôl i'r brig

 

Rwy'n awyddus i roi cynnig ar rywbeth mwy heriol a hoffwn gystadlu neu gymryd rhan mewn ras hwyl.

Ceir nifer o glybiau chwaraeon o amgylch Caerdydd sy'n cynnig amrywiaeth eang o wahanol chwaraeon. Gofynnwch am fwy o wybodaeth am y clybiau lleol gan Chwaraeon.Caerdydd neu Gyngor Chwaraeon Cymru.

Ceir hefyd nifer o ddigwyddiadau cystadleuol, a rasys hwyl/teithiau cerdded yn y ddinas. Edrychwch ar ein calendr digwyddiadau i weld sut i gymryd rhan.

» Yn ôl i'r brig

 

Rwyf dros 50 oed - a oes unrhyw beth penodol ar gyfer fy ngrŵp oedran?

Mae'r rhan fwyaf ohonom yn gwybod ei bod yn hanfodol parhau i fod yn actif wrth i chi heneiddio er mwyn cadw'n iach, ond dylid cydnabod hefyd y gall ymarfer corff helpu i gynnal agwedd gymdeithasol dda i'ch bywyd sy'n hanfodol ar gyfer yr ymdeimlad o les a hyder. Ceir nifer o gyfleodd yng Nghaerdydd ar gyfer cymryd rhan mewn ymarfer corff rheolaidd:

  • Mae gan Age Concern gyfeiriadur o weithgareddau yng Nghaerdydd i bobl dros 50 oed
  • Os ydych dros 60 oed mae hawl gennych i nofio am ddim ym mhyllau nofio Cyngor Caerdydd
  • Mae nifer o Ganolfannau Hamdden Cyngor Caerdydd a'r Neuaddau Cymunedol hefyd yn cynnig gostyngiadau i gyfranogwyr 50+ mewn rhai gweithgareddau. Edrychwch ar dudalennau 50+ y gronfa ddata weithgareddau i weld beth y gallwch ymuno ag ef.

» Yn ôl i'r brig

 

Pa weithgareddau sydd i bobl ifanc (11-25 oed)?

  • Mae gan wefan Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc nifer o ddolenni i wefannau sy'n ddefnyddiol i bobl ifanc.
  • Mae Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Caerdydd yn gweithio gyda phobl ifanc i ddatblygu cyfleoedd a phrofiadau diddorol, heriol a chreadigol i helpu pobl ifanc i wireddu eu potensial unigryw.

» Yn ôl i'r brig

 

Pa weithgareddau sydd i blant yng Nghaerdydd (0-11 oed)?

» Yn ôl i'r brig

 

Wyddech chi

  •    Fod gennych hawl i adolygu eich meddyginiaethau gyda'ch fferyllydd lleol am ddim.
  •    Gall diet cytbwys, iach, ymarfer corff yn amlach a cholli pwysau pe bai angen rwystro datblygu'r clefyd siwgr.
  •    Gall pobl ifanc rhwng 13 a 25 oed gael cyngor cyfrinachol ynghylch iechyd rhywiol a derbyn condomau am ddim oddi wrth y Cynllun Cerdyn Condom Caerdydd.
  •    Gallai lleihau faint o halen sydd yn eich bwyd o 9g i 6g leihau pwysau gwaed.
  •    Mae camddefnyddio alcohol wedi golygu bod rhyw 33,000 o bobl yng Nghymru a Lloegr wedi gorfod mynd i'r ysbyty am eu bod yn dioddef o glefyd yr afu oherwydd alcohol.
  •    Gallai gwella'ch diet eich rhwystro rhag dioddef o draean o'r holl ganserau.
  •    Mae gan dros 40% o blant 5 oed yng Nghaerdydd un neu fwy o ddannedd pwdr.
  •    Ar hyn o bryd dywedir fod dros hanner poblogaeth Caerdydd dros bwysau neu'n ordew.
  •    Os ydych yn gyrru ar ôl yfed dwywaith y terfyn alcohol cyfreithiol rydych chi 30 gwaith mwy tebygol o achosi damwain ar y ffordd, na gyrrwr sydd heb yfed.
  •    Mae tystiolaeth yn dangos bod diet cytbwys iach, gweithgareddau corfforol a chadw pwysau iach yn effeithiol o ran osgoi a thrin gorbwysedd.
  •    Mae bod yn ordew yn golygu y gallech chi farw rhyw 9 mlynedd ynghynt.
  •    Gall ymarfer corff rheolaidd helpu'n sylweddol os ydych chi'n teimlo'n isel eich ysbryd, dan bwysau neu'n bryderus.
  •    Mae diet sy'n llawn ffrwythau a llysiau yn lleihau'r perygl o ddioddef oherwydd clefyd y galon.
  •    Bydd 650 miliwn o'r bobl sy'n fyw heddiw, yn marw oherwydd tybaco.
  •    Gallai bwyta darn ychwanegol o ffrwythau a llysiau y diwrnod olygu fod rhyw 4% yn llai o berygl o ddioddef clefyd y galon a 6% yn llai o berygl o ddioddef strôc.
  •    Os ydych chi'n ymarfer corff yn rheolaidd, rydych chi'n 50% yn llai tebygol o fynd yn ordew.
  •    Gellid arbed bron i £2000 y flwyddyn drwy roi'r gorau i ysmygu 20 sigar&eacure;t y dydd.
  •    Os ydych chi'n ymarfer corff yn rheolaidd, rydych ryw 50% yn llai tebygol o ddatblygu clefyd y galon na'r bobl hynny na ydynt yn ymarfer corff.
  •    Trwy ymarfer corff yn rheolaidd rydych yn lleihau'r perygl o ddatblygu osteoporosis.
  •    Mae wedi'i brofi fod ysmygu yn ystod cyfnod beichiogrwydd yn un o achosion marwolaeth grud.
  •    Yng Nghymru, amcangyfrifir bod peidio ag ymarfer corff yn costio rhyw £650 miliwn y flwyddyn i'r gwasanaeth iechyd a'r economi yn gyffredinol.
  •    Mae'r 6,000 o ddynion sy'n marw o glefyd y galon bob blwyddyn yn uniongyrchol oherwydd alcohol.
  •    Dim ond 26% o oedolion yng Nghaerdydd sy'n gwneud hanner awr o ymarfer corff 5 diwrnod yr wythnos.
Dinas Chwaraeon Ewropeaidd 2009 bike4life walk4life : cerdded am oes