Fy Iechyd

Heneiddio'n Iach

Beth bynnag fo oedran rhywun, nid yw byth yn rhy gynnar na'n rhy hwyr i ddechrau gwneud newidiadau syml i wella'ch iechyd. Er bod heneiddio'n rhan anochel o gylch bywyd, nid yw llawer o'r salwch a gysylltir â henaint yn anochel neu mae'n bosibl eu rheoli'n llwyddiannus.

 

» Yn ôl i'r brig

 

Bwyta Deiet Iach

Wrth i chi heneiddio dylech barhau i geisio cael deiet iach a chytbwys yn seiliedig ar y plât bwyta'n iach a cheisio cadw'ch pwysau ar lefel iach. Mae gan ein tudalennau Bwyta'n Iach lawer o gyngor am fwyta deiet cytbwys ond dyma ychydig o bethau eraill i'w cofio.

  • Bydd bod dros eich pwysau wrth i chi heneiddio yn effeithio ar eich gallu i symud, a all effeithio ar eich iechyd ac ansawdd eich bywyd a fydd hefyd yn cynyddu eich risg o afiechydon fel clefyd y galon a diabetes.
  • Wrth i chi heneiddio mae'n naturiol addasu faint o fwyd rydych yn ei fwyta'n gyffredinol gan ddechrau bwyta llai achos byddwch chi'n llai actif yn gorfforol. Os ydych yn bwyta llai gan eich bod yn ei chael hi'n anoddach prynu neu baratoi bwyd neu'n ei chael hi'n anoddach symud o gwmpas oherwydd cyflwr meddygol, dylech ofyn i'ch meddyg teulu am gyngor a chymorth.
  • Nid yw'n iach colli pwysau'n gyflym a gall fod yn arwydd eich bod naill ai ddim yn bwyta digon o fwyd neu eich bod yn sâl, felly siaradwch â'ch meddyg teulu os ydych yn poeni.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn yfed digon o hylifau ac yn bwyta'n rheolaidd.
  • Gall iechyd deintyddol effeithio ar iechyd maeth. Mae'n bwysig iawn ymweld â'r deintydd yn rheolaidd p'un a oes gennych eich dannedd eich hun ai peidio, er mwyn cadw'ch dannedd a'ch ceg mewn cyflwr da. Nid yw triniaeth ddeintyddol am ddim i bawb felly sicrhewch eich bod yn holi am gost unrhyw driniaeth, mae triniaeth y GIG yn rhatach na thriniaeth breifat. Gall rhai pobl fod â'r hawl i gael help gyda chost triniaeth. Cysylltwch â Sefydliad Iechyd Deintyddol Prydain am fwy o wybodaeth.

Os ydych yn poeni am eich deiet neu bwysau, yna gofynnwch i'ch meddyg am archwiliad. Os yw eich meddyg teulu yn poeni am eich deiet yna gallant eich atgyfeirio at ddeietegydd, a all roi cyngor i chi ynghylch newid beth rydych yn ei fwyta i ddiwallu eich anghenion.

Edrychwch ar y plât bwyta'n iach am fwy o wybodaeth am ddeiet cytbwys. Ewch i dudalennau Ffeithiau Bwyd Cymdeithas Deieteg Prydain am fwy o wybodaeth.

Ewch i'n tudalennau Bwyta'n Iach am fwy o wybodaeth am fwyta'n iach.

» Yn ôl i'r brig

 

Aros yn Actif

Mae gweithgarwch corfforol yn cynnig nifer o fuddiannau i iechyd a ffordd o fyw - beth bynnag fo'ch oedran! Mae gan ein tudalennau Gweithgarwch Corfforol lawer o wybodaeth am sut i fod yn actif yng Nghaerdydd.

  • wella symudedd, cydbwysedd a chryfhau cyhyrau
  • hybu ymdeimlad cyffredinol o les
  • atal rhai afiechydon
  • lleihau'r risg o glefyd y galon, diabetes math 2, osteoporosis, gordewdra ac anafu wrth gwympo
  • lleihau straen a lleddfu iselder ysbryd
  • mwynhau gweithgareddau gyda theulu a ffrindiau.

Edrychwch ar ein tudalennau Gweithgarwch Corfforol i gael mwy o wybodaeth am sut i fod yn actif a chadw'n actif.

» Yn ôl i'r brig

 

Gofalu am eich Iechyd Meddwl

Nid yw byth yn rhy hwyr i wella'ch iechyd meddwl a'ch lles. Lluniwyd cyngor gwych i wella'ch iechyd meddwl fel rhan o Ymchwiliad y DU i Iechyd Meddwl a Lles yn Hwyrach mewn Bywyd, sef:

1.       Cynnwys Ymarfer yn eich Trefn Ddyddiol:
Mae ymarfer corff yn dda i'ch iechyd meddwl. Hyd yn oed mwy o reswm i fynd â'r ci am dro, palu'r ardd, mwynhau dawnsio, neu ddefnyddio'r grisiau yn lle'r lifft.
2.       Bwyta Deiet Cytbwys ac Yfed yn Synhwyrol:
Gall yr hyn rydych yn ei fwyta a'i yfed effeithio ar sut rydych yn teimlo.
3.       Cadw eich Ymennydd yn Fyw:
Dysgwch rywbeth newydd. "Mae dysgu gydol oes yn cadw'r meddwl a'r ysbryd yn fyw."
4.       Cynnal Cydbwysedd Da Rhwng Bywyd a Gwaith:
Sicrhewch eich bod yn cadw cydbwysedd rhwng bywyd gwaith p'un a ydych yn gweithio â thâl neu'n ddi-dâl (er enghraifft fel gwirfoddolwr). Cymerwch seibiannau. Gofynnwch am help os oes ei angen arnoch.
5.       Cadw mewn cysylltiad â Ffrindiau a Phob sy'n Agos Atoch:
Mae perthnasau agos yn bwysig ar gyfer iechyd meddwl a lles da.
6.       Gwneud Rhywbeth i Eraill:
Mae nifer o bobl hŷn yn dweud bod gwirfoddoli yn eu helpu i gynnal iechyd meddwl a lles da yn eu henaint. "Y ffordd orau o ddod dros iselder yw bod yn weithgar. Gwnewch rywbeth, gorau oll os yw ar gyfer rhywun arall."
7.       Gall Cynllunio Ymlaen llaw a Datblygu Diddordeb fod yn Rhywbeth
          Gydol Oes:
"Dylai pobl yn eu 50au baratoi ar gyfer henaint drwy ddatblygu diddordebau ymlaen llaw a fydd ar gael iddynt wrth iddynt fynd yn hŷn."
8.       Cynllunio eich Dydd Ymlaen Llaw:
Peidiwch â gohirio'r hyn y gallwch ei wneud heddiw. Mae nifer o bobl hŷn yn dweud mai'r hyn sy'n gwneud iddynt deimlo'n dda yw deffro'n y bore gan wybod beth sydd wedi'i gynllunio ar gyfer y diwrnod.
9.       Hawlio'r hyn y mae Gennych Hawl iddo:
Canfyddwch pa fudd-daliadau y mae gennych hawl i'w cael a gwnewch yn siŵr eich bod yn eu cael. Nid yw hyd at £4.1 biliwn o arian budd-daliadau'n cyrraedd pocedi miliynau o bensiynwyr bob blwyddyn.
10.     Defnyddio eich Llais:
Dylech herio camwahaniaethu pan fydd yn digwydd, p'un a yw'r camwahaniaethu yn eich erbyn chi neu rywun arall.

Edrychwch ar ein tudalennau Iechyd Meddwl am fwy o wybodaeth.

» Yn ôl i'r brig

 

Atal Damweiniau yn y Cartref

Mae'n bwysig iawn bod yn wyliadwrus am bethau a allai achosi chi i lithro neu faglu yn y cartref fel bod eich cartref yn lle mwy diogel i fyw ynddo. Er enghraifft, sicrhewch fod digon o olau, yn enwedig ger y grisiau; gosodwch ganllawiau ar eich grisiau i'w gwneud yn haws ac yn fwy diogel i'w dringo; cofiwch gadw'r llawr yn glir o wifrau anniben, carpedi neu rygiau wedi'u plygu neu eu rhaflo neu unrhyw beth arall y gallech faglu drosto neu lithro arno. Dim ond ychydig o syniadau yw'r rhain. Am fwy o wybodaeth, edrychwch ar y daflen 'Staying Steady' gan Help the Aged.

Gall Gofal a Thrwsio Caerdydd ddarparu cymorth i bobl hŷn a/neu bobl anabl i drwsio a gwella'u cartrefi i atal damweiniau a helpu pobl i fyw mor annibynnol â phosibl. Am fwy o wybodaeth am wasanaethau Gofal a Thrwsio ffoniwch 029 2047 3337.

» Yn ôl i'r brig

 

'Gofal Piau Hi y Gaeaf Hwn'

 

1.       Amddiffyn eich hun rhag Ffliw:
Nid annwyd drwg 'mo'r ffliw; haint feirysol hynod heintus sy'n effeithio ar bobl o bob oed. Mae'r symptomau yn dechrau â thwymyn, oerni, cur pen, cyhyrau poenus a pheswch neu gyflyrau eraill sy'n gysylltiedig â'r glust, y trwyn a'r gwddf. Er y bydd llawer o bobl yn gwella heb gymhlethdodau o fewn wythnos i bythefnos, gall fod yn beth difrifol yn enwedig ymysg pobl hen ac ifanc. Mae'r brechiad yn ceisio amddiffyn y rhai sydd mewn perygl difrifol o gael y ffliw.
Mae'r brechiad rhag y ffliw yn rhoi amddiffyniad o 70-80% rhag y ffliw ac mae am ddim i bobl dros 65 oed ac i bawb sy'n dioddef salwch penodol fel diabetes, cyflyrau cronig y galon, yr iau, yr aren, a'r frest. Gallwch fod yn gymwys fel gofalwr hefyd. Gallwch gael mwy o wybodaeth am gael brechiad rhag y ffliw drwy gysylltu â'ch meddygfa leol neu Galw Iechyd Cymru ar 0845 4647.
2.       Cadw'n Gynnes:
Gyda chost ynni'n codi'n frawychus o gyflym mae'n gynyddol bwysig cymryd pob cam posibl tuag at leihau faint sydd ei angen i gadw'n gynnes y gaeaf hwn. Bydd gwefan Gofal Piau Hi y Gaeaf Hwn yn rhoi llawer o gyngor i chi ar gadw'n gynnes.
3.       Bwyta'n Dda dros Fisoedd y Gaeaf:
Efallai eich bod yn bwyta llai gan eich bod yn ei chael hi'n anoddach prynu neu baratoi bwyd, ond mae'n bwysig bwyta'n rheolaidd, o leiaf 3 gwaith y dydd. Cofiwch y gallwch wneud pryd iach a maethlon drwy ddefnyddio cynhwysion tun, wedi'u hoeri a'u rhewi neu wedi'u paratoi'n barod. Gall bwyta deiet cytbwys amrywiol eich helpu i gadw'n iach, yn actif ac yn annibynnol. Cadwch gwpwrdd bwyd sy'n cynnwys tuniau a bwydydd hanfodol rhag ofn byddwch yn mynd yn sâl neu os bydd tywydd gwael. Mae bwydydd wedi'u rhewi yn cadw'n dda ac yn cadw llawer o'u cynnwys maethol. Dilynwch y canllawiau hyn i'ch helpu i gadw'n gynnes ac yn iach:
      - Dechreuwch y dydd mewn ffordd iach gyda brecwast poeth
      - Yfwch ddigon o ddiodydd poeth drwy gydol y dydd
      - Os nad ydych yn teimlo fel bwyta llawer, cymerwch ddiod yn lle bwyd
      - Cadwch fflasg llawn diod poeth wrth eich gwely yn y nos

» Yn ôl i'r brig

 

Adolygu eich Meddyginiaeth

Mae hawl gennych i adolygu eich meddyginiaethau gyda'ch fferyllydd lleol am ddim. Gall hyn eich helpu i gynnal eich iechyd a'ch annibyniaeth. Mae rhai fferyllfeydd hefyd yn cynnig archwiliad iechyd ar gyfer pob oed (archwiliad pwysedd gwaed, profi gwaed am ddiabetes, prawf colesterol ac ati). Am restr o'r holl fferyllwyr yng Nghaerdydd, ewch i'r adran 'Gwasanaethau Lleol' ar wefan Bwrdd Iechyd Lleol Caerdydd. Yma cewch restr o fferyllwyr, meddygon teulu, deintyddion ac optegwyr.

» Yn ôl i'r brig

 

Cenedlaethol Dyddiau: Heneiddio'n Iach

4 Ionawr 2011

Diwrnod Genedlaethol Braille, Royal Blind.

www.nationalbrailleweek.org


1 - 28 Chwefror 2011

Sefydliad Prydenig y Galon, Sefydliad Prydeingig y Calon.

www.bhf.org.uk


4 Chwefror 2011

Diwrnod Lleihau Straen, Y Samariaid.

www.stressdownday.org


4 - 10 Chwefror 2011

Wythnos Genedlaethol Tinitws, British Tinnitus Association.

tinnitus.org.uk


25 Chwefror 2011

Wear Red Day, Sefydliad Prydeingig y Calon.

www.bhf.org.uk


9 Mawrth 2011

Diwrnod Dim Smygu, Diwrnod Dim Smygu (yr elusen).

www.nosmokingday.org.uk


12 Mawrth 2011

Diwrnod Ymwybyddiaeth o Glawcoma, Y Gymdeithas Glawcoma Ryngwladol.

www.iga.org.uk


21 - 27 Mawrth 2011

Share the Care Week.


7 Ebrill 2011

Diwrnod Iechyd y Byd, Sefydliad Iechyd y Byd.

www.who.int/world-health-day


11 - 15 Ebrill 2011

National Allergy Week, Allergy UK.

www.allergyuk.org


11 - 17 Ebrill 2011

Wythnos Ymwybyddiaeth o Glefyd Parkinson, Cymdeithas Clefyd Parkinson.

www.parkinsons.org.uk


11 - 27 Ebrill 2011

Wythnosau Genedlaethol Iselder, Y Gynghrair Iselder.

www.depressionalliance.org


27 Ebrill 2011

Diwrnod Rhyngwladol, Ymwbyddiaeth o Swn Cynghrair y Trwm eu Clyw.

www.quiet.org


1 - 31 Mai 2011

Mis Iechyd Traed y Byd, Y Ffederasiwn Podiatryddion Rhyngwladol.

www.fipnet.org


9 - 13 Mai 2011

Arthritis Awareness Week.

www.arthritiscare.org.uk


10 Mai 2011

Diwrnod Ymwybyddiaeth o Strôc, Y Gymdeithas Strôc.

www.stroke.org.uk


14 - 20 Mai 2011

Wythnos Addysg Oedolion, Y sefydliad Cenedlaethol dros Addysg Barhaus i Oedolion.

www.niace.org.uk


15 Mai 2011

Diwrnod Rhyngwladol y Teulu, Y Cenhedloedd Unedig.

www.un.org


15 Mai - 12 Mehefin 2011

Mis Cenedlaethol Gwenu, Sefydliad Iechyd Deintyddol Prydain.

www.nationalsmileweek.org


17 Mai 2011

Diwrnod Pwysedd Gwaed Uchel y Byd, Cynghrair Pwysedd Gwaed Uchel y Byd.

www.worldhypertensionleague.org


30 Mai - 5 Mehefin 2011

National Family Week.

www.nationalfamilyweek.co.uk


31 Mai 2011

Diwrnod Dim Tybaco y Byd, Sefydliad Iechyd y Byd, Swyddfa Ranbarthol Ewrop.

www.euro.who.int/tobaccofree


1 - 30 Mehefin 2011

Mis Cenedlaethol Osteoporosis, Y Gymdeithas Osteoporosis Genedlaethol.

www.nos.org.uk


6 - 12 Mehefin 2011

Arrhythmia Awareness Week.

www.aaaw.org.uk


13 - 19 Mehefin 2011

Wythnos Diabetes, Diabetes UK.

www.diabetes.org.uk


13 - 19 Mehefin 2011

Wythnos Gofalwyr, Ymddiriedolaeth y Dywysoges Frenhinol i Ofalwyr.

www.carers.org


13 - 19 Mehefin 2011

Wythnos 'Breathe Easy', Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint.

www.lunguk.org


20 - 26 Mehefin 2011

Wythnos Cenedlaethol Ymwybyddiaeth o Syrthio.

www.ageuk.org.uk


3 - 9 Gorfennaf 2011

Wythnos Ymwybyddiaeth o Ddemensia, Cymdeithas Alzheimer.

www.alzheimers.org.uk


24 Gorfennaf 2011

24/7 Samaritans Awareness Day.

www.samaritans.org


1 Hydref 2011

Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn, Y Cenhedloedd Unedig.

www.un.org


13 Hydref 2011

Diwrnod y Byd ar gyfer Gweld, Yr Saiantaeth Ryngwladol i Atal Dallineb.

www.v2020.org


14 Tachwedd 2011

Diwrnod Diabetes y Byd, Y Ffederasiwn Diabetes Rhyngwladol.

www.worlddiabetesday.org


14 - 18 Tachwedd 2011

Indoor Allergy Week.

www.allergyuk.org


» Yn ôl i'r brig

 

Wyddech chi

  •    Fod gennych hawl i adolygu eich meddyginiaethau gyda'ch fferyllydd lleol am ddim.
  •    Gall diet cytbwys, iach, ymarfer corff yn amlach a cholli pwysau pe bai angen rwystro datblygu'r clefyd siwgr.
  •    Gall pobl ifanc rhwng 13 a 25 oed gael cyngor cyfrinachol ynghylch iechyd rhywiol a derbyn condomau am ddim oddi wrth y Cynllun Cerdyn Condom Caerdydd.
  •    Gallai lleihau faint o halen sydd yn eich bwyd o 9g i 6g leihau pwysau gwaed.
  •    Mae camddefnyddio alcohol wedi golygu bod rhyw 33,000 o bobl yng Nghymru a Lloegr wedi gorfod mynd i'r ysbyty am eu bod yn dioddef o glefyd yr afu oherwydd alcohol.
  •    Gallai gwella'ch diet eich rhwystro rhag dioddef o draean o'r holl ganserau.
  •    Mae gan dros 40% o blant 5 oed yng Nghaerdydd un neu fwy o ddannedd pwdr.
  •    Ar hyn o bryd dywedir fod dros hanner poblogaeth Caerdydd dros bwysau neu'n ordew.
  •    Os ydych yn gyrru ar ôl yfed dwywaith y terfyn alcohol cyfreithiol rydych chi 30 gwaith mwy tebygol o achosi damwain ar y ffordd, na gyrrwr sydd heb yfed.
  •    Mae tystiolaeth yn dangos bod diet cytbwys iach, gweithgareddau corfforol a chadw pwysau iach yn effeithiol o ran osgoi a thrin gorbwysedd.
  •    Mae bod yn ordew yn golygu y gallech chi farw rhyw 9 mlynedd ynghynt.
  •    Gall ymarfer corff rheolaidd helpu'n sylweddol os ydych chi'n teimlo'n isel eich ysbryd, dan bwysau neu'n bryderus.
  •    Mae diet sy'n llawn ffrwythau a llysiau yn lleihau'r perygl o ddioddef oherwydd clefyd y galon.
  •    Bydd 650 miliwn o'r bobl sy'n fyw heddiw, yn marw oherwydd tybaco.
  •    Gallai bwyta darn ychwanegol o ffrwythau a llysiau y diwrnod olygu fod rhyw 4% yn llai o berygl o ddioddef clefyd y galon a 6% yn llai o berygl o ddioddef strôc.
  •    Os ydych chi'n ymarfer corff yn rheolaidd, rydych chi'n 50% yn llai tebygol o fynd yn ordew.
  •    Gellid arbed bron i £2000 y flwyddyn drwy roi'r gorau i ysmygu 20 sigar&eacure;t y dydd.
  •    Os ydych chi'n ymarfer corff yn rheolaidd, rydych ryw 50% yn llai tebygol o ddatblygu clefyd y galon na'r bobl hynny na ydynt yn ymarfer corff.
  •    Trwy ymarfer corff yn rheolaidd rydych yn lleihau'r perygl o ddatblygu osteoporosis.
  •    Mae wedi'i brofi fod ysmygu yn ystod cyfnod beichiogrwydd yn un o achosion marwolaeth grud.
  •    Yng Nghymru, amcangyfrifir bod peidio ag ymarfer corff yn costio rhyw £650 miliwn y flwyddyn i'r gwasanaeth iechyd a'r economi yn gyffredinol.
  •    Mae'r 6,000 o ddynion sy'n marw o glefyd y galon bob blwyddyn yn uniongyrchol oherwydd alcohol.
  •    Dim ond 26% o oedolion yng Nghaerdydd sy'n gwneud hanner awr o ymarfer corff 5 diwrnod yr wythnos.