Fy Iechyd

Yfed Alcohol yn Gymedrol

Mae'r rhan fwyaf ohonom yn yfed. Mae rhai yn yfed yn fwy rheolaidd nac eraill. Ond pa mor aml yw rhy aml? A faint yw gormod?

Y ffaith amdani yw bod alcohol yn effeithio ar bawb mewn ffordd wahanol. Mae'r hyn sy'n ddigon i un person yn gallu bod yn broblem i eraill. Cofiwch, nid yw'r ffaith eich bod yn yfed yn rheolaidd yn golygu bod gennych broblem ddifrifol. Gall newid bach wneud gwahaniaeth mawr.

 

» Yn ôl i'r brig

 

Beth yw unedau alcohol?

Yn anffodus ni allwch gyfrif pob diod fel uned o alcohol. Mae nifer yr unedau'n dibynnu ar wahanol gryfder a maint bob diod, felly gall amrywio llawer.

Defnyddiwch gyfrifiannell y GIG i'ch helpu i gynllunio noson allan, neu'ch helpu i weithio allan faint y gwnaethoch ei yfed neithiwr. Mae'n syml i'w ddefnyddio: cliciwch ar eich diod, dewiswch gryfder a chyfaint yna cyfrifwch yr unedau. Gallwch gyfrifo ac adio unedau nifer o ddiodydd.

Ewch i wefan Down your Drink i weld a ydych yn yfed gormod.

» Yn ôl i'r brig

 

Beth yw 'goryfed yn achlysurol'?

Gellir diffinio goryfed yn achlysurol fel yfed yn drwm, neu yfed digon o alcohol i gyrraedd cyflwr o feddwdod, ar un achlysur neu yn ystod un sesiwn yfed. Nid oes un mesur cyson wedi y cytunwyd arno ar gyfer 'goryfed yn achlysurol'. Ystyrir mwy nag wyth uned i ddynion a mwy na chwech uned i ferched mewn unrhyw ddiwrnod penodol fel mesur goryfed yn achlysurol ymysg y boblogaeth, ond mae unigolion yn amrywio a'r prif beth yw osgoi yfed nes eich bod yn feddw ar achlysuron penodol. Mae goryfed yn achlysurol yn brif ffactor mewn damweiniau, trais ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

» Yn ôl i'r brig

 

Beth yw'r peryglon sy'n gysylltiedig ag yfed gormod?

Nid yw'r rhan fwyaf o bobl sy'n dioddef problemau iechyd yn sgîl yfed yn alcoholigion ond y rhai sydd wedi bod yn yfed yn drwm dros nifer o flynyddoedd ydynt fel arfer. Nid yw llawer yn dioddef canlyniadau uniongyrchol yn sgîl yfed, ond yn yr hirdymor gall yr effaith fod yn niweidiol. Mae 6,000 o farwolaethau o glefyd coronaidd y galon ymysg dynion bob blwyddyn yn cael eu heffeithio'n uniongyrchol gan alcohol. Ac mae 400 o'r 1,700 o farwolaethau o ganser y geg y flwyddyn yn gysylltiedig ag yfed trwm - mae hynny bron yn un o bob pedwar.

Yng Nghymru a Lloegr, mae camddefnyddio alcohol yn arwain at tua 33,000 o dderbyniadau i'r ysbyty bob blwyddyn ar gyfer clefyd yr iau sy'n gysylltiedig ag alcohol. Am ragor o wybodaeth am effeithiau a pheryglon yfed yn gymdeithasol a goryfed yn achlysurol a sut i leihau faint rydych yn ei yfed ewch i wefannau'r GIG:

» Yn ôl i'r brig

 

Ydych chi'n feichiog ac yn poeni am eich yfed?

Dylai merched beichiog neu ferched sy'n ceisio beichiogi osgoi yfed alcohol. Pan fyddwch yn yfed bydd alcohol yn cyrraedd y babi drwy'r brych. Ond ni all y babi ei brosesu cyn gyflymed â chi, felly caiff ei amlygu mewn symiau mwy o alcohol am fwy o amser na chi, a gall hyn effeithio'n ddifrifol ar ddatblygiad eich babi.

Os hoffech gael mwy o wybodaeth am beryglon alcohol i ffrwythlondeb, peryglon alcohol i'r plentyn heb ei eni, syndrom alcohol y ffoetws, alcohol a bwydo ar y fron a lleihau alcohol pan rydych yn feichiog, ewch i wefan beichiogrwydd y GIG.

» Yn ôl i'r brig

 

Poeni am Alcohol a diogelwch ar y ffordd?

Os byddwch yn gyrru â dwywaith y lefel o alcohol sy'n gyfreithlon, byddwch o leiaf 30 gwaith yn fwy tebygol o achosi damwain ar y ffordd na gyrrwr nad yw wedi bod yn yfed.

Mae unrhyw faint o alcohol yn effeithio ar eich gallu i yrru. Nid oes ffordd ddiogel o yfed a chadw o dan y lefel gyfreithlon na gwybod faint y gall unigolyn ei yfed a pharhau i yrru'n ddiogel.

Ewch i wefan yr Aran Drafnidiaeth i gael mwy o wybodaeth ar yfed a gyrru.

» Yn ôl i'r brig

 

 

Wyddech chi

  •    Fod gennych hawl i adolygu eich meddyginiaethau gyda'ch fferyllydd lleol am ddim.
  •    Gall diet cytbwys, iach, ymarfer corff yn amlach a cholli pwysau pe bai angen rwystro datblygu'r clefyd siwgr.
  •    Gall pobl ifanc rhwng 13 a 25 oed gael cyngor cyfrinachol ynghylch iechyd rhywiol a derbyn condomau am ddim oddi wrth y Cynllun Cerdyn Condom Caerdydd.
  •    Gallai lleihau faint o halen sydd yn eich bwyd o 9g i 6g leihau pwysau gwaed.
  •    Mae camddefnyddio alcohol wedi golygu bod rhyw 33,000 o bobl yng Nghymru a Lloegr wedi gorfod mynd i'r ysbyty am eu bod yn dioddef o glefyd yr afu oherwydd alcohol.
  •    Gallai gwella'ch diet eich rhwystro rhag dioddef o draean o'r holl ganserau.
  •    Mae gan dros 40% o blant 5 oed yng Nghaerdydd un neu fwy o ddannedd pwdr.
  •    Ar hyn o bryd dywedir fod dros hanner poblogaeth Caerdydd dros bwysau neu'n ordew.
  •    Os ydych yn gyrru ar ôl yfed dwywaith y terfyn alcohol cyfreithiol rydych chi 30 gwaith mwy tebygol o achosi damwain ar y ffordd, na gyrrwr sydd heb yfed.
  •    Mae tystiolaeth yn dangos bod diet cytbwys iach, gweithgareddau corfforol a chadw pwysau iach yn effeithiol o ran osgoi a thrin gorbwysedd.
  •    Mae bod yn ordew yn golygu y gallech chi farw rhyw 9 mlynedd ynghynt.
  •    Gall ymarfer corff rheolaidd helpu'n sylweddol os ydych chi'n teimlo'n isel eich ysbryd, dan bwysau neu'n bryderus.
  •    Mae diet sy'n llawn ffrwythau a llysiau yn lleihau'r perygl o ddioddef oherwydd clefyd y galon.
  •    Bydd 650 miliwn o'r bobl sy'n fyw heddiw, yn marw oherwydd tybaco.
  •    Gallai bwyta darn ychwanegol o ffrwythau a llysiau y diwrnod olygu fod rhyw 4% yn llai o berygl o ddioddef clefyd y galon a 6% yn llai o berygl o ddioddef strôc.
  •    Os ydych chi'n ymarfer corff yn rheolaidd, rydych chi'n 50% yn llai tebygol o fynd yn ordew.
  •    Gellid arbed bron i £2000 y flwyddyn drwy roi'r gorau i ysmygu 20 sigar&eacure;t y dydd.
  •    Os ydych chi'n ymarfer corff yn rheolaidd, rydych ryw 50% yn llai tebygol o ddatblygu clefyd y galon na'r bobl hynny na ydynt yn ymarfer corff.
  •    Trwy ymarfer corff yn rheolaidd rydych yn lleihau'r perygl o ddatblygu osteoporosis.
  •    Mae wedi'i brofi fod ysmygu yn ystod cyfnod beichiogrwydd yn un o achosion marwolaeth grud.
  •    Yng Nghymru, amcangyfrifir bod peidio ag ymarfer corff yn costio rhyw £650 miliwn y flwyddyn i'r gwasanaeth iechyd a'r economi yn gyffredinol.
  •    Mae'r 6,000 o ddynion sy'n marw o glefyd y galon bob blwyddyn yn uniongyrchol oherwydd alcohol.
  •    Dim ond 26% o oedolion yng Nghaerdydd sy'n gwneud hanner awr o ymarfer corff 5 diwrnod yr wythnos.