Mae'n bwysig sicrhau bod plant a phobl ifanc yn bwyta'r bwyd maethlon angenrheidiol er mwyn eu helpu i dyfu a datblygu. Mae annog plant i fwyta prydau iach a chytbwys yn:
eu helpu i fynd i arfer da ar hyd eu hoes a'u diogelu rhag clefyd y galon a chyflyrau eraill yn y dyfodol.
Gwella eu hiechyd, eu lles a'u gallu i ddysgu a llwyddo yn yr ysgol.
Dylai deiet iach a chytbwys gynnwys pump ffrwyth a llysieuyn amrywiol bob dydd o liwiau gwahanol. Awgrymwch rywbeth gwahanol i losin neu fyrbrydau llawn siwgr a braster.
Mae'r Rhaglen MEND ar gael i blant rhwng 7-13 oed y mae eu pwysau dros yr ystod iach ar gyfer eu hoedran a'u taldra.
Ewch i'n tudalennau Bwyta'n Iach i gael rhagor o wybodaeth.
Mae iechyd emosiynol ac iechyd meddwl plant yn ymwneud â'r cryfder a'r gallu i fyw bywyd llawn a chreadigol, tra'n meddu ar yr hyblygrwydd i ddelio â digwyddiadau na ellir eu rhagweld. Mae pob plentyn yn profi hapusrwydd a thristwch ac amrywiaeth o feddyliau a theimladau wrth iddynt dyfu i fyny. Fel rydym yn gwybod, gall tyfu i fyny fod yn straen, ond gyda chymorth y rhai o'u cwmpas, mae'r rhan fwyaf o blant yn ymdopi'n dda. Fodd bynnag, nid all rhai ymdopi, ac maen nhw'n cael eu gorlethu gan dristwch, dicter ac ofn, a dyna pryd y gall pob math o broblemau godi. Dyma'r plant sydd yn debygol o fod angen cymorth arbenigol. Heb y cymorth hwn, gall y plant hyn fod mewn perygl o ddatblygu problemau mwy difrifol.
Ewch i'n tudalennau Meddwl Iach i gael mwy o wybodaeth.
Gall fod yn anodd i riant siarad yn agored gyda'ch plentyn yn ei arddegau ynghylch unrhyw bryderon am eu hiechyd a'u lles, yn enwedig pan fyddant yn gysylltiedig â chyffuriau ac alcohol neu ryw a pherthnasau, ond yn aml, dyma'r ffordd orau o roi cymorth iddynt.
Fod gennych hawl i adolygu eich meddyginiaethau gyda'ch fferyllydd lleol am ddim.
Gall diet cytbwys, iach, ymarfer corff yn amlach a cholli pwysau pe bai angen rwystro datblygu'r clefyd siwgr.
Gall pobl ifanc rhwng 13 a 25 oed gael cyngor cyfrinachol ynghylch iechyd rhywiol a derbyn condomau am ddim oddi wrth y Cynllun Cerdyn Condom Caerdydd.
Gallai lleihau faint o halen sydd yn eich bwyd o 9g i 6g leihau pwysau gwaed.
Mae camddefnyddio alcohol wedi golygu bod rhyw 33,000 o bobl yng Nghymru a Lloegr wedi gorfod mynd i'r ysbyty am eu bod yn dioddef o glefyd yr afu oherwydd alcohol.
Gallai gwella'ch diet eich rhwystro rhag dioddef o draean o'r holl ganserau.
Mae gan dros 40% o blant 5 oed yng Nghaerdydd un neu fwy o ddannedd pwdr.
Ar hyn o bryd dywedir fod dros hanner poblogaeth Caerdydd dros bwysau neu'n ordew.
Os ydych yn gyrru ar ôl yfed dwywaith y terfyn alcohol cyfreithiol rydych chi 30 gwaith mwy tebygol o achosi damwain ar y ffordd, na gyrrwr sydd heb yfed.
Mae tystiolaeth yn dangos bod diet cytbwys iach, gweithgareddau corfforol a chadw pwysau iach yn effeithiol o ran osgoi a thrin gorbwysedd.
Mae bod yn ordew yn golygu y gallech chi farw rhyw 9 mlynedd ynghynt.
Gall ymarfer corff rheolaidd helpu'n sylweddol os ydych chi'n teimlo'n isel eich ysbryd, dan bwysau neu'n bryderus.
Mae diet sy'n llawn ffrwythau a llysiau yn lleihau'r perygl o ddioddef oherwydd clefyd y galon.
Bydd 650 miliwn o'r bobl sy'n fyw heddiw, yn marw oherwydd tybaco.
Gallai bwyta darn ychwanegol o ffrwythau a llysiau y diwrnod olygu fod rhyw 4% yn llai o berygl o ddioddef clefyd y galon a 6% yn llai o berygl o ddioddef strôc.
Os ydych chi'n ymarfer corff yn rheolaidd, rydych chi'n 50% yn llai tebygol o fynd yn ordew.
Gellid arbed bron i £2000 y flwyddyn drwy roi'r gorau i ysmygu 20 sigar&eacure;t y dydd.
Os ydych chi'n ymarfer corff yn rheolaidd, rydych ryw 50% yn llai tebygol o ddatblygu clefyd y galon na'r bobl hynny na ydynt yn ymarfer corff.
Trwy ymarfer corff yn rheolaidd rydych yn lleihau'r perygl o ddatblygu osteoporosis.
Mae wedi'i brofi fod ysmygu yn ystod cyfnod beichiogrwydd yn un o achosion marwolaeth grud.
Yng Nghymru, amcangyfrifir bod peidio ag ymarfer corff yn costio rhyw £650 miliwn y flwyddyn i'r gwasanaeth iechyd a'r economi yn gyffredinol.
Mae'r 6,000 o ddynion sy'n marw o glefyd y galon bob blwyddyn yn uniongyrchol oherwydd alcohol.
Dim ond 26% o oedolion yng Nghaerdydd sy'n gwneud hanner awr o ymarfer corff 5 diwrnod yr wythnos.