Fy Iechyd
Bwyta'n Iach
Mae deiet da yn hanfodol ar gyfer iechyd da. Gall deiet cytbwys amrywiol eich helpu i reoli eich pwysau, gwella lles cyffredinol a hefyd sicrhau eich bod yn cael yr holl faeth hanfodol. Bwytewch ddigon o fwyd i gyd-fynd â pha mor actif rydych chi, ond yn fwy na dim mwynhewch eich bwyd.
Ble y gallaf gael mwy o wybodaeth am fwyta'n iach?
» Yn ôl i'r brig
Cael y cydbwysedd cywir
Y prif negeseuon ar gyfer bwyta'n iach i oedolion a phlant dros 5 oed yw:
- Sicrhewch fod eich prydau yn seiliedig ar fwydydd starts
- Bwytewch lawer o ffrwythau a llysiau
- Bwytewch fwy o bysgod
- Lleihewch fraster dirlawn a siwgr
- Ceisiwch fwyta llai o halen - dim mwy na 6g y dydd
- Byddwch yn actif a cheisiwch gadw at bwysau iach
- Yfwch ddigon o ddŵr
- Peidiwch â mynd heb frecwast
Gallwch ganfod cyfoeth o wybodaeth am fwyta deiet cytbwys iach ar wefan Eatwell yr Asiantaeth Safonau Bwyd a Ffeithiau Bwyd gan Ddeietegwyr ar wefan Gymdeithas Ddeieteg Prydain.
Un o brif negeseuon bwyta'n iach yw sicrhau eich bod yn bwyta o leiaf 5 dogn o ffrwythau a llysiau bob dydd. Mae gwefan 5 y dydd y GIG yn rhoi cyngor ar sut y gellir gwneud hyn ynghyd â rhai syniadau am ryseitiau.
» Yn ôl i'r brig
Beth yw'r manteision sy'n gysylltiedig â mwynhau deiet cytbwys iach?
- Mae'n helpu i leihau'r risg o ddatblygu diabetes, clefyd y galon, pwysedd gwaed uchel, strôc, rhai mathau o ganser, osteoporosis a gordewdra
- Gall helpu i gynnal pwysau iach (gyda gweithgarwch corfforol)
- Gwella'r ymdeimlad o ddaioni
- Atal anaemia
- Gwella'r system imiwnedd a lleihau'r risg o haint
- Lleihau'r risg o bydredd dannedd
» Yn ôl i'r brig
Sut y Gallaf Fwynhau Deiet Cytbwys Iach?
Mae Plât Bwyta'n Iach gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn dangos pa fwydydd sydd ym mhob grŵp a faint ohonynt y dylech geisio eu bwyta.
Dechreuwch yn ifanc - gall blasu a dysgu am ystod eang o fwydydd sy'n gwneud deiet cytbwys iach wrth dyfu helpu i ddatblygu patrymau bwyta da yn ddiweddarach. Gellir cael gwybodaeth am fwydo a diddyfnu babanod ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd .
Gadewch i blant flasu a pharatoi bwyd, a phan fyddant yn ddigon hen gallant helpu i goginio bwyd. Gwnewch brydau bwyd yn achlysur cymdeithasol. I gael gwybodaeth sy'n gysylltiedig â phlant ac arferion bwyd ewch i'r wefan Eatwell.
» Yn ôl i'r brig
Dechrau'n Ifanc
I fabanod a phlant mae gan y rhaglen Dechrau'n Deg yng Nghaerdydd raglen bwyd a maeth sy'n cynnig partïon diddyfnu, partïon bwydo plant bach a chyngor ar iechyd a bwydo plant bach. Gofynnwch i'ch ymwelydd iechyd os ydych mewn ardal Dechrau'n Deg.
Mae gan Gaerdydd Gynllun Dyfarniadau Byrbrydau Iach Safon Aur ar gyfer meithrinfeydd, grwpiau chwarae a lleoliadau eraill sy'n gofalu am blant 0-4 oed. Bydd lleoedd sy'n gwneud cais am y dyfarniad a'i ennill yn sicrhau bod eich plentyn yn cael y dechrau gorau posib i'w fywyd, gan gynnig amrywiaeth o fyrbrydau iach yn ogystal â staff sydd wedi'u hyfforddi i hybu maeth da. Os yw eich plentyn y mynd i feithrinfa, grŵp chwarae neu at ofalwr plant, gofynnwch iddynt a oes ganddynt y dyfarniad.
Mae Fitaminau Cychwyn Iach ar gael i deuluoedd cymwys, fel rhan o'r Cynllun 'Cychwyn Iach' o'r cyfnod pan fydd eich plentyn yn 6 mis oed nes ei ben-blwydd yn bedair oed. I fabanod sy'n wynebu risg o ddiffyg fitamin D a phlant sydd o dan 6 mis oed, bydd eich ymwelydd iechyd yn rhoi llythyr i fynd gyda'ch llythyr Cychwyn Iach i'r clinig. Mae fitaminau atodol Cychwyn Iach ar gael o nifer o glinigau. Cysylltwch â'ch ymwelydd iechyd i ganfod eich clinig lleol. Gall merched beichiog a merched â babanod hyd at flwydd oed fod yn gymwys hefyd ar gyfer fitaminau Cychwyn Iach am ddim. Gofynnwch i'ch bydwraig neu'ch ymwelydd iechyd am fwy o wybodaeth.
» Yn ôl i'r brig
Oedran Ysgol
Caiff ysgolion eu hannog i fod yn rhan o'r Cynllun Ysgolion Iach sy'n cynnwys edrych ar fwyd mewn ysgolion a gofyn i bobl ifanc beth maent am ei wybod am fwyd a phrydau ysgol drwy ffurfio Grŵp Gweithredu ar Faeth yn yr Ysgol (SNAG). Gall staff a chogyddion ysgol ddefnyddio mentrau hyfforddi maeth a ddarperir gan ddeietegwyr cymunedol (gweler 'Deietegwyr Cymunedol'). Gellir cael mwy o wybodaeth am SNAG a gweithgareddau maeth eraill mewn ysgolion ar wefan Bwydydd mewn Ysgolion.
Rhaglen leol am ddim i deuluoedd ar fyw'n iach yw MEND. Cwrs llawn hwyl yw'r rhaglen i deuluoedd â phlant rhwng 7 a 13 oedd y mae eu pwysau yn fwy na'r ystod iach ar gyfer eu hoedran a'u taldra. Caiff ei gynnal ddwywaith yr wythnos ar ôl ysgol mewn sesiynau dwy awr dros 10 wythnos. Caiff y project MEND yng Nghaerdydd ei gynnal yng nghanolfan STAR. Ewch i wefan MEND
i gael mwy o wybodaeth am sut i gofrestru.
Nod Cynllun Gwên, rhaglen Iechyd y Geg Genedlaethol, yw gwella iechyd y geg ymhlith plant yng Nghymru. Fe’i hariennir gan Lywodraeth Cymru ac fe’i lansiwyd yn wreiddiol ar 30 Ionawr 2009 yn y Gogledd a’r De.
Mae gan y rhaglen nifer o elfennau; mae rhaglenni atal peilot i blant newydd-anedig hyd at 3 oed yn cael eu sefydlu gan weithio gydag ystod eang o weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant ifanc. Y nod yw rhoi cyngor da a chyson i rieni, i ddarparu brwsys dannedd a phast dannedd a’u hannog i fynd i’r deintydd.
Rhaglen brwsio dannedd ysgol/meithrinfa i blant mewn lleoliadau cyn ysgol hyd at flwyddyn 2 mewn ysgolion cynradd, gan helpu i sefydlu arferion da yn fuan mewn bywyd.
Selio Tyllau yn y Geg Daw’r dannedd oedolion cyntaf i’r amlwg pan fydd plentyn tua 6 oed. Maent yn tyfu y tu ôl i’r dannedd babi heb fod dannedd yn cael eu colli. Dyma ddannedd sydd wedi’u selio. Gall selio tyllau yn y geg bara am flynyddoedd i helpu i atal dannedd rhag pydru.
Farnais Fflworid Dyma gel aur sy’n cael ei roi ar y dannedd. Mae’n helpu i atal pydredd dannedd drwy gryfhau’r dannedd, ac wedi bod yn fwyaf effeithiol os yw’n cael ei osod ar y dannedd o leiaf ddwywaith y flwyddyn.
Ewch i’n gwefan am ragor o wybodaeth a manylion cysylltiadau lleol www.designedtosmile.co.uk
» Yn ôl i'r brig
Sut y gallaf gael bwyd iach fforddiadwy?
Chwiliwch am gynigion ffrwythau a llysiau yn eich siopau lleol, dewch i wybod am gydweithfeydd bwyd yn eich ardal neu ymwelwch â Marchnadoedd Glan-yr-afon a'r Rhath.
Mae cydweithfa fwyd gymunedol yn ffordd wych o ddod â'r gymuned at ei gilydd - mae pobl yn dod i adnabod ei gilydd ac mae pob mathau o weithgareddau eraill yn datblygu o ganlyniad. Maen nhw'n gwerthu bagiau o ffrwythau, llysiau a salad tymhorol fforddiadwy iawn bob wythnos (rhwng £2 a £2.50) o ganolfannau cymunedol, ysgolion a hyd yn oed neuaddau Eglwys. Er enghraifft, fel arfer, mae'r bag llysiau'n cynnwys tatws, moron a 3-4 eitem tymhorol arall.
Dim ond ychydig o wirfoddolwyr sydd eu hangen, gan dreulio 2-3 awr yn dethol y cynnyrch, cymryd archebion ac arian. Mae cwsmeriaid yn talu am ddetholiad yr wythnos nesaf wrth iddynt gasglu archeb yr wythnos hon ac mae cyfanswm yr archeb yn cael ei ffonio drwy'r cyflenwr. Caiff y cydweithfeydd bwyd eu rhedeg gan wirfoddolwyr ymroddedig sydd bob amser yn chwilio am fwy o bobl i ymuno a helpu i redeg y gydweithfa bob wythnos.
Gall unrhyw un ddefnyddio cydweithfa fwyd a gall cwsmeriaid archebu cymaint neu gyn lleied ag yr hoffent. Mae'r holl arian a gymerir yn mynd yn uniongyrchol i'r cyflenwr heb ddim elw yn cael ei wneud gan y gydweithfa. Ceir nifer o gydweithfeydd bwyd yn gweithredu yng Nghaerdydd a'r cyffiniau - Llaneirwg, Butetown, Grangetown, Glan-yr-afon, Trowbridge, Pentwyn a Phenarth. I ddod o hyd i gydweithfa yn eich ardal edrychwch ar y gronfa ddata Rhwydweithiau Gweithgaredd Corfforol a Maeth Cymru - cliciwch ar Gydweithfeydd Bwyd yn y rhestr 'Gweithgaredd', cliciwch yr ardal rydych eisiau ei chanfod yn y rhestr Lleoliad yna cliciwch ar chwilio.
Gweithwyr Datblygu Bwyd yn rhoi cymorth i gymunedau sy'n dymuno dechrau cydweithfa fwyd. Maen nhw'n darparu cyngor, cymorth, offer sylfaenol am ddim ac amrywiaeth o gyrsiau hyfforddiant am ddim i wirfoddolwyr a chwsmeriaid. Am fwy o wybodaeth am sut i ddechrau cydweithfa fwyd y eich ardal, ewch i dudalennau Cydweithfeydd Bwyd ar wefan Rhwydweithiau Gweithgaredd Corfforol a Bwyd Cymru.
Mae Marchnadoedd Glan-yr-Afon a'r Rhath yn cynnig dewis gwych o fwydydd ffres am brisiau gwych. Mae'r cynnyrch hefyd wedi ei gynhyrchu'n lleol. Ewch i'w gwefan am fwy o wybodaeth.
Gyda Cychwyn Iach, gallwch gael talebau wythnosol am ddim i'w cyfnewid am laeth, ffrwythau ffres, llysiau ffres a llaeth fformiwla i fabanod. Gallech hefyd fod yn gymwys i gael fitaminau am ddim. Gellir defnyddio talebau Cychwyn Iach yn y rhan fwyaf o'r siopau bwyd cydweithredol. Os oes gennych hawl i gael Talebau 'Cychwyn Iach' gofynnwch i'ch ymwelydd iechyd neu fydwraig am sut i'w cael a'u defnyddio i brynu bwydydd maethlon i chi a'ch babi.
» Yn ôl i'r brig
Dysgu sgiliau newydd a gwybodaeth am fwyd
Mae deietegwyr cymunedol yng Nghaerdydd yn cynnig cyrsiau ar fwyd a maeth i staff cymunedol sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc. Gall grwpiau cymunedol ddefnyddio mentrau hyfforddiant ar faeth fel cyrsiau sgiliau coginio ymarferol. I gael mwy o wybodaeth ewch i wefan Rhwydweithiau Gweithgaredd Corfforol a Maeth Cymrau.
» Yn ôl i'r brig
Deietegwyr Cymunedol
Gall staff e.e. ymarferwyr blynyddoedd cynnar, cogyddion ysgol, arweinwyr grwpiau chwarae a gweithwyr byd cymunedol fel gwirfoddolwyr siopau bwyd cydweithredol yn ogystal â grwpiau cymunedol ddefnyddio rhaglen Rhwydwaith y Coleg Agored (OCN) o gyrsiau hyfforddi maeth achrededig a ddarperir gan ddeietegwyr cymunedol. Mae cyrsiau'n cynnwys:
- Cwrs Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol, 10 wythnos, lefel 2 (3 chredyd).
- Cwrs Sgiliau Bwyd a Maeth Cymunedol ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar, 5 wythnos, lefel 2 (2 gredyd).
- Cwrs Sgiliau Coginio Ymarferol, 10 wythnos, lefel 1 (3 chredyd).
Gweler gwefan Rhwydweithiau Gweithgaredd Corfforol a Maeth Cymru (PANW) am fwy o wybodaeth am Fentrau Bwyd Cymunedol a Chyrsiau Sgiliau Bwyd a Maeth ar wefan Rhwydwaith y Brifysgol Agored.
Mae rhaglen rheoli pwysau wyth wythnos ar gael gyda'ch adran deietegwyr cymunedol lleol a leolir yng Nghanolfan Iechyd Glan-yr-Afon yng Nghaerdydd. Gwahoddir unrhyw un sy'n awyddus i golli pwysau ynghyd â ffrind cefnogol neu berthynas, i fynd i wyth sesiwn awr a chwarter neu os nad yw sefyllfa grŵp at eich dant, gellir trefnu ymgynghoriadau unigol i chi. Gallwch wneud hyn drwy gael eich atgyfeirio gan eich meddyg teulu neu Nyrs Practis.
Mae Deietegwyr Cymunedol a Nyrsys Arbenigol ar Ddiabetes yn rhedeg rhaglen addysg strwythuredig i gleifion i bobl sy'n byw gyda Diabetes. Rhaglen addysgol wedi'i chynllunio'n arbennig i gleifion yw X-PERT er mwyn rhoi hyder, gwybodaeth a sgiliau angenrheidiol i bobl i reoli eu diabetes. Gwahoddir pobl sydd â diabetes Math 2, ynghyd â ffrind neu berthynas cefnogol i fynd i chwe sesiwn dwy awr a hanner. Gallwch ddefnyddio hyn drwy gael eich atgyfeirio at yr Adran Ddeieteteg Gymunedol gan eich meddyg teulu neu Nyrs Practis.
» Yn ôl i'r brig
Poeni am eich pwysau?
I gael gwybodaeth am sut i golli pwysau a'i gadw i ffwrdd edrychwch ar ffeithiau bwyd y BDA i gael awgrymiadau a syniadau.
A fydd colli pwysau yn gwneud lles gwirioneddol i'm iechyd?
Bydd - mae cario pwysau ychwanegol yn wael i'ch iechyd. Gall colli ychydig o bwysau eich helpu i deimlo'n well a gwella eich iechyd. Gall rheoli eich pwysau helpu gyda'r cyflyrau canlynol: pwysedd gwaed uchel, problemau gyda'r galon, diabetes ac arthritis. Bydd colli 10% o bwysau'ch corff cychwynnol yn helpu i leihau eich pwysedd gwaed a cholesterol uchel. Bydd hefyd yn eich helpu i leihau'r risg o ddiabetes Math 2.
Negeseuon iechyd allweddol ar gyfer diabetes. Er bod y dewisiadau a wnewch o ran bwyd a'ch arferion bwyta yn bwysig i'ch helpu i reoli eich diabetes, dylech allu mwynhau parhau i fwynhau amrywiaeth eang o fwydydd fel rhan o fwyta'n iach. Bydd bwyta deiet cytbwys, rheoli eich pwysau, a dilyn ffordd o fyw iach, ynghyd â chymryd unrhyw feddyginiaethau ar bresgripsiwn a monitro pan y bo'n briodol, o fudd enfawr i'ch iechyd.
A fydd rheoli fy niabetes o fudd i'm hiechyd?
Os nad yw'ch diabetes wedi'i reoli'n dda gall arwain at broblemau iechyd hir dymor fel problemau gyda'ch calon, eich llygaid a'ch arennau. Deiet iach cytbwys yw'r deiet ar gyfer pobl â diabetes sef yr un fath ag a argymhellir i weddill y boblogaeth. I gael mwy o wybodaeth a syniadau am ryseitiau ewch i wefan Diabetes UK.
I gael gwybodaeth am raglenni rheoli pwysau, a rhaglenni addysg i gleifion am ddiabetes a ddarperir gan ddeietegwyr cymunedol yng Nghaerdydd ewch i 'Deietegwyr Cymunedol' .
» Yn ôl i'r brig
Gwobr Dewis Iach Cymru Gyfan
Mae bwyta allan yn haws, ac yn fwy poblogaidd, nag erioed o'r blaen. Mae'r bwyd sy'n cael ei fwyta y tu allan i'r cartref yn gallu cyfrannu'n fawr at y braster, braster dirlawn, siwgr, halen a chalorïau yr ydym yn eu bwyta. Fodd bynnag, mae gan fusnesau bwyd gyfle euraid i hybu ymwybyddiaeth o fwydydd iach ymhlith cwsmeriaid, ac yn bwysicach fyth, i ddarparu dewisiadau iach iddyn nhw.
Mae Cyngor Caerdydd yn cynnig y Wobr Dewis Iach Cymru Gyfan i'r busnesau bwyd yng Nghaerdydd. Mae'r wobr yn ffordd o gydnabod busnesau sydd â safonau glendid bwyd uchel ac sy'n cynnig dewisiadau bwyd iachus. Nod y wobr yw sicrhau bod y bwyd a weinir gan fusnesau i'w cwsmeriaid yn iachach er mwyn:
- Gwella'r ffordd o gyrchu bwyd iach i sicrhau mai'r dewis iach yw'r dewis hawsaf
- Gwobrwyo busnesau sy'n gwneud hi'n haws i gwsmeriaid fwyta'n iach wrth fwyta allan
- Helpu cwsmeriaid i wneud dewisiadau deallus drwy gynnwys eitemau iachach ar y fwydlen wedi'u nodi'n glir.
Os ydych chi'n fusnes â diddordeb yn y cynllun hwn gweler y ddogfen Canllawiau Dewis Iach. Os hoffech weld pa fusnesau yng Nghaerdydd sydd wedi ennill y Wobr Dewis Iach ac i gael rhagor o wybodaeth am y cynllun ewch i dudalennau'r Tïm Gwella Iechyd ar wefan Cyngor Caerdydd.
» Yn ôl i'r brig