Fy Iechyd
Meddwl Iach
Mae iechyd meddwl yn ymwneud â'r ffordd rydym yn meddwl, teimlo ac ymddwyn. Mae iechyd meddwl yn bwysig i bob un ohonom gan mai dyma sylfaen iechyd corfforol da a'r ymdeimlad o les.
» Yn ôl i'r brig
Pam ei bod yn bwysig Cynnal Iechyd Meddwl a Lles Cadarnhaol?
Mae iechyd meddwl da yn ein helpu i:
- Fwynhau ein bywyd, ein hamgylchedd a'r bobl ynddo
- gwneud y gorau o'n potensial
- bod yn greadigol, dysgu, rhoi cynnig ar bethau newydd a chymryd risg
- chwarae rhan gyflawn gyda'n teulu, gweithle, cymuned ac ymysg ffrindiau
- ymdopi â chyfnodau anodd yn ein bywyd, ac ymhen amser, symud ymlaen a mwynhau bywyd unwaith eto.
Nid yw ein hiechyd meddwl bob amser yn aros yr un fath ond mae'n newid yn barhaol. Mae amgylchiadau bywyd bob dydd, fel gwaith, ysgol neu brifysgol, perthnasau personol a hyd yn oed ein tai yn effeithio ar ein hiechyd meddwl a hynny er gwell neu waeth. Gall rhai amgylchiadau ein gwneud i deimlo'n hapus ac yn llawn bywyd, tra bo eraill, fel symud tŷ, ffrae gyda ffrind neu golli swydd ein gwneud i ni deimlo'n isel, yn bryderus ac achosi straen. Yn gyffredinol, fodd bynnag, mae'r teimladau negyddol hyn yn rhai dros dro a gallwn oresgyn rhwystrau.
Fodd bynnag, weithiau gall ein teimladau'n gorlethu a datblygu'n broblem iechyd meddwl sy'n gofyn am help i'w oresgyn. Gall hyn ddigwydd i unrhyw un ohonom ar unrhyw adeg yn ein bywyd. Mae problemau iechyd meddwl yn eithaf cyffredin mewn gwirionedd. Rydym yn gwybod y bydd gan un ym mhob pedwar person yn y DU broblem iechyd meddwl ar ryw adeg yn eu bywydau a fydd yn effeithio ar eu bywyd dyddiol, perthnasau neu iechyd corfforol. Gall problemau iechyd meddwl fod yn ysgafn i gymedrol, fel anhwylderau pryder neu iselder neu'n broblemau mwy difrifol fel anhwylder deubegynol neu sgitsoffrenia. Y newyddion da yw y gall y rhan fwyaf o bobl sy'n profi problemau iechyd meddwl eu goresgyn neu ddysgu byw gyda hwy, yn enwedig os ydynt yn cael cymorth yn gynnar.
» Yn ôl i'r brig
Beth y gallaf ei wneud i wella fy Iechyd Meddwl a Lles?
Mae meithrin a gwarchod ein hiechyd meddwl nid yn unig yn bwysig wrth ein helpu i fwynhau a chwarae rhan weithgar ym mywyd bob dydd, ond mae hefyd yn atal problemau iechyd meddwl rhag datblygu yn y dyfodol. Gall pob un ohonom gymryd camau bach syml i feithrin a gwella ein hiechyd meddwl - mae'n bur debyg eich bod eisoes yn cymryd rhai o'r camau hyn heb hyd yn oed sylweddoli! Isod ceir rhai syniadau ar sut i wella eich iechyd meddwl.
» Yn ôl i'r brig
Derbyn pwy ydych chi
Mae ein credoau, cefndir, crefydd, hil, rhyw a rhywioldeb yn ein gwneud yr hyn ydym ni. Mae gan bawb yr hawl i gael ei barchu, gan gynnwys chi. Mae gan bawb rywbeth i'w gynnig. Derbyniwch yr hyn ydych chi - rydych yn unigolyn anhygoel gyda chyfuniad unigryw o nodweddion a thalentau!
» Yn ôl i'r brig
Bod yn Actif
Gall ymarfer corff rheolaidd, fod o gymorth gwirioneddol os ydych yn teimlo'n isel, dan straen neu'n bryderus. Gall roi mwy o egni i chi hefyd. Dewch o hyd i rywbeth rydych yn ei fwynhau - chwaraeon, nofio, cerdded, dawnsio neu seiclo - yna rhowch gynnig arni. Er mwyn cael mwy o wybodaeth am yr amrywiaeth o weithgareddau yng Nghaerdydd y gallech gymryd rhan ynddynt, edrychwch ar ein tudalen Gweithgarwch Corfforol.
» Yn ôl i'r brig
Dysgu Sgiliau Newydd
Gall dysgu sgil newydd roi hwb i'ch hyder - boed hynny er pleser, i wneud ffrindiau newydd neu i wella'ch cyfleoedd o gael swydd. Gall rhoi cynnig ar bethau newydd wneud i chi deimlo'n dda am eich hun hefyd. Ceir nifer o wersi hwyliog a diddorol yng Nghaerdydd i'ch helpu i ddysgu pethau newydd. Ewch i adran Dysgu i Oedolion a'r Gymuned ar wefan Cyngor Caerdydd am fwy o wybodaeth am gyrsiau sydd ar gael.
» Yn ôl i'r brig
Cymryd Rhan
Gall cwrdd â phobl newydd a chymryd rhan mewn pethau wneud gwahaniaeth mawr i chi ac i eraill. Gallwch roi cymorth i eraill a chael cymorth eich hun. Er mwyn cael gwybodaeth am gyfleodd i wirfoddoli yng Nghaerdydd ewch i wefan Gweithredu Gwirfoddol Caerdydd neu wefan Gwirfoddoli Cymru.
» Yn ôl i'r brig
Cadw mewn Cysylltiad â Ffrindiau
Nid oes rhaid i chi fod yn gryf a brwydro ymlaen ar eich pen eich hun. Mae ffrindiau'n bwysig yn enwedig ar adegau anodd. Cadwch mewn cysylltiad.
» Yn ôl i'r brig
Ymlacio
Ceisiwch wneud amser i chi'ch hun. Gwnewch le i bethau yn ystod y dydd sy'n eich helpu i ymlacio fel gwrando ar gerddoriaeth, darllen, gweddïo neu fyfyrio - dewch o hyd i rywbeth y byddwch yn ei fwynhau ac sy'n gweithio i chi.
» Yn ôl i'r brig
Bwyta'n Dda
Nid yn unig y bydd deiet cytbwys yn helpu'r ffordd rydych yn teimlo ond bydd hefyd yn helpu'r ffordd rydych yn meddwl. Ceisiwch fwyta'n rheolaidd a chofiwch am eich pum dogn dyddiol o ffrwythau a llysiau ffres. Am fwy o wybodaeth a syniadau ynghylch sut y gallech fwyta deiet iach a chytbwys, edrychwch ar ein tudalennau Bwyta'n Iach.
» Yn ôl i'r brig
Yfed yn Synhwyrol
Dim ond gwneud pethau'n waeth y mae yfed alcohol er mwyn delio â phroblemau. Mae'n well yfed yn gymedrol ac osgoi goryfed achlysurol. Er mwyn canfod mwy am alcohol a sut i yfed yn gymedrol, edrychwch ar ein tudalennau Cymedroldeb wrth yfed alcohol.
» Yn ôl i'r brig
Gofyn am Gymorth
Mae angen cymorth ar bawb o bryd i'w gilydd. Mae'n iawn gofyn am gymorth, er ei bod yn anodd gwneud weithiau - boed hynny gan ffrindiau neu deulu, neu gan eich meddyg, grŵp cymorth lleol neu linell gymorth. Er mwyn cael gwybodaeth am grwpiau cymorth a llinellau cymorth yng Nghaerdydd, ewch i'r adran 'Beth sy'n digwydd yn fy ardal i'm helpu?'
» Yn ôl i'r brig
Trafod y Mater
Mae'r rhan fwyaf o bobl yn teimlo'n unig neu wedi'u gorlethu gan eu problemau ar adegau. Gall rhannu'ch teimladau fod o gymorth. Os ydych yn teimlo nad oes neb ar gael i siarad â hwy, gallech ffonio llinell gymorth. Er mwyn cael gwybodaeth am grwpiau cymorth a llinellau cymorth yng Nghaerdydd ewch i'r adran 'Beth sy'n digwydd yn fy ardal i'm helpu?'
» Yn ôl i'r brig
Cadw mewn Cysylltiad â Ffrindiau
Nid oes rhaid i chi fod yn gryf a brwydro ymlaen ar eich pen eich hun. Mae ffrindiau'n bwysig yn enwedig ar adegau anodd. Cadwch mewn cysylltiad.