» Gwasanaeth Iechyd Rhyw Integredig
» Gwasanaeth meddyg teulu 'y tu allan i oriau'
» Gynllun Cerdyn Condom Caerdydd (Cerdyn-C)
Bydd iechyd rhyw da yn eich galluogi i aros yn iach, gwneud dewisiadau am ddefnyddio dulliau atal cenhedlu a gwybod ble i fynd i gael gafael ar wasanaethau iechyd rhyw.
» R U Thinking
Gwefan sy'n darparu cyngor, ffeithiau ac atebion am ryw i bobl ifanc a llawer o gyngor defnyddiol am berthnasau.
» Ymddiriedolaeth Terrence Higgins
Dyma wefan Ymddiriedolaeth Terrence Higgins sy'n llawn gwybodaeth am iechyd rhyw, heintiau a drosglwyddir yn rhywiol a HIV.
» YGM
Dyma wefan i ddynion ifanc hoyw.
» Cymdeithas Cynllunio Teulu
Dyma brif elusen iechyd rhyw y DU. Chwiliwch am glinigau lleol ar y wefan hon.
Ffôn: 0845 122 8690
» Cymdeithas Cynllunio Teulu: Clinigau
» Llinell Gymorth yr Iechyd Rhywiol
Tel: 0800 567123
Beth yw'r manteision sy'n gysylltiedig â chael iechyd rhyw da a pherthnasau iach?
Mae iechyd rhyw da yn eich galluogi i aros yn iach, gwneud penderfyniadau ynghylch defnyddio dulliau atal cenhedlu a gwybod ble i fynd i gael gafael ar wasanaethau iechyd rhyw. Gallwch ddewis a ydych am gael rhyw ai peidio, ac ni ddylech teimlo o dan bwysau i gael rhyw. Gall perthnasau iach eich gwneud yn hapus, yn gyflawn a rhoi teimlad o ddaioni i chi.
Beth sy'n digwydd yn fy ardal leol i'm helpu?
Os oes angen dulliau atal cenhedlu arnoch gallwch fynd i'ch meddygfa teulu leol a all roi cyngor a gwybodaeth i chi am iechyd rhyw a sawl math o ddull atal cenhedlu. Gallwch hefyd fynd i Glinigau Cynllunio Teulu sydd wedi eu lleoli ym mhob rhan o Gaerdydd.
Mae'r Gwasanaeth Iechyd Rhyw Integredig yn ymgorffori Meddygaeth Genhedlol-Wrinol (GUM) a gwasanaethau Cynllunio Teulu ac yn cynnig profion a thriniaeth ar gyfer heintiau a drosglwyddir yn rhywiol, ynghyd â chyngor ar atal cenhedlu a phrofion beichiogrwydd. Mae'r gwasanaeth wedi ei leoli yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd ac mae ganddo amrywiaeth o glinigau galw heibio yn ystod yr wythnos yn ogystal â chlinig i bobl ifanc (o dan 19 oed). Ffôniwch 029 2033 5208 i gael gwybodaeth.
Gynllun Cerdyn-C
Gall pobl ifanc rhwng 13-25 oed gael cyngor iechyd rhyw cyfrinachol a chondomau AM DDIM gan Gynllun Cerdyn Condom Caerdydd (Cerdyn-C). Mae'r cynllun hwn yn gweithredu ar draws Caerdydd, yn bennaf o ganolfannau ieuenctid a mudiadau gwirfoddol. Er mwyn cael mwy o wybodaeth am ble mae'r cynllun cerdyn-c ar gael, anfonwch e-bost at Dîm Iechyd Cyhoeddus Lleol Caerdydd neu ffôniwch 029 20556029.
Darllenwch y gwefannau a restrir uchod i gael gwybodaeth fanwl am wasanaethau a chyngor lleol ar iechyd rhyw.
Ble y gallaf gael gafael ar ddulliau atal cenhedlu brys?
Gellir cymryd dulliau atal cenhedlu brys hyd at 72 awr ar ôl cael rhyw heb ddiogelwch a gall arbed beichiogrwydd. Pilsen ydyw sydd hefyd y cyfeiri ato'n anghywir fel y 'morning after pill'.
Gallwch gael dull atal cenhedlu brys gan unrhyw feddyg teulu sy'n darparu gwasanaethau atal cenhedlu, clinigau cynllunio teulu neu glinig gwasanaeth iechyd rhyw integredig. Os ydych wedi cofrestru â meddyg teulu gallwch hefyd ddefnyddio 'Gwasanaeth 'y tu allan i oriau'.
Gallwch hefyd brynu dulliau atal cenhedlu brys gan rai fferyllwyr sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig am tua £30.
Cenedlaethol Dyddiau: Iechyd Rhywiol
STiQ Day.
Diwrnod Meddwl Am Ryw Cymdeithas Trafferthion Rhywiol.
Wythnos Ymwybyddiaeth o Atal Cenhedlu, Y Gymdeithas Cynllunio Teulu.
Mis Ymwybyddiaeth o Ganser y Prostad, Elusen Canser y Prostad.
Mis Ymwybyddiaeth o Ganser yr Ofari, Ovarian Cancer Action.
Diwrnod Iechyd y Byd, Sefydliad Iechyd y Byd.
National Allergy Week, Allergy UK.
Mis Achub Baban, Y Gronfa Astudio Marwolaethau Ymhlith Babanod.
International Day of the Midwife.
Diwrnod Pwysedd Gwaed Uchel y Byd, Cynghrair Pwysedd Gwaed Uchel y Byd.
www.worldhypertensionleague.org
Wythnos i Dynnu Sylw at Beryglon Tamponau, Tampon Alert.
Wythnos Genedlaethol Iechyd Dynion, Fforwm Iechyd Dynion.
Breastfeeding Awareness Week.
World Breastfeeding Week, World Health Organisation.
Mis "Let's Talk Baby", Tommy's.
Diwrnod Rhyngwladol Ymwybyddiaeth o Syndrom Alcohol Ffetws, Foetal Alcohol Syndrome Aware UK.
Wythnos Iechyd Rhywiol, Y Gymdeithas Cynllunio Teulu.
Mis Ymwybyddiaeth o Ganser y Fron, Breast Cancer Care.
Movember, The Prostate Cancer Charity.
Diwrnod AIDS y Byd, Ymddiriedolaeth Genedlaethol AIDS.