Fy Iechyd

Rhoi'r Gorau i Ysmygu


 

» Yn ôl i'r brig

 

Sut ydw i'n mynd ati i roi'r gorau iddi?

Rydych yn fwy tebygol o roi'r gorau iddi gyda chymorth uniongyrchol a gynigir am ddim gan Dim Smygu Cymru. Gallwch hefyd ofyn am gymorth i roi'r gorau i ysmygu gan eich meddyg teulu, fferyllydd lleol neu mewn rhai achosion, eich deintydd.

Gallwch gysylltu â Dim Smygu Cymru ar 0800 085 2219.

I gael mwy o gyngor ar roi'r gorau i ysmygu ewch i:
Dim Smygu Cymru
neu
Dim Smygu ASH
neu
ASH Cymru

» Yn ôl i'r brig

 

Beth yw'r manteision sy'n gysylltiedig â mwynhau ffordd o fyw ddi-fwg?

Bydd eich corff yn cael budd bron yn union ar ôl i chi roi'r gorau i ysmygu. Ac mae'r effeithiau yn bellgyrhaeddol*:

Cyfnod o amser

Effeithiau

20 munud ar ôl rhoi'r gorau iddi:

  • pwysedd gwaed yn gostwng
  • cyfradd curiad y galon yn lleihau
  • tymheredd corff y dwylo a'r traed yn cynyddu

Wyth awr yn ddiweddarach:

  • lefel carbon monocsid yn y gwaed yn gostwng i lefel arferol
  • lefel ocsigen yn y gwaed yn cynyddu i lefel arferol

24 awr yn ddiweddarach:

  • y risg o drawiad ar y galon yn lleihau

48 awr yn ddiweddarach:

  • terfynau nerfau yn dechrau aildyfu
  • y gallu i arogli a blasu yn gwell

Pythefnos i dri mis yn ddiweddarach::

  • cylchrediad yn gwella
  • cerdded yn dod yn haws
  • swyddogaeth yr ysgyfaint yn cynyddu

Mis i naw mis yn ddiweddarach:

  • peswch, anhwylder sinws, blinder, diffyg anadlu yn lleihau

Blwyddyn yn ddiweddarach:

  • risg gormodol o glefyd coronaidd y galon yn lleihau i hanner y risg sydd gan ysmygwr

Pum mlynedd yn ddiweddarach:

  • o 5 -15 mlynedd ar ôl rhoi'r gorau iddi, mae'r risg o gael strôc yn lleihau i'r un fath â phobl nad ydynt erioed wedi ysmygu

10 mlynedd yn ddiweddarach:

  • risg o ganser yr ysgyfaint yn lleihau i hanner y risg sydd gan ysmygwyr parhaus
  • risg of wlser, canser y geg, llwnc, corn gwddf, pledren, arennau a phancreas yn lleihau

15 mlynedd yn ddiweddarach:

  • risg o glefyd coronaidd y galon bellach yr un peth â phobl nad ydynt erioed wedi ysmygu
  • risg o farwolaeth yn dychwelyd bron i lefel y bobl nad ydynt erioed wedi ysmygu

* Ffynhonnell: American Lung Association

» Yn ôl i'r brig

 

Y gost sy'n gysylltiedig ag ysmygu.

Isod ceir tabl sy'n rhoi manylion lefel gwariant syml ar gyfer sigaréts dros y blynyddoedd. Cost 20 o sigaréts arferol yw £5.42

Nifer y dydd Cost y flwyddyn Cost bob 2 flynedd Cost bob 5 mlynedd Cost bob 10 mlynedd
5 Sigarét £494 £988 £2,470 £4,940
10 Sigarét £988 £1,976 £4,940 £9,880
20 Sigarét £1,976 £3,952 £9,880 £19,760
40 Sigarét £3,952 £7,904 £19,760 £39,520

Er enghraifft a, £500 gallwch gael gwyliau yn Ewrop ac am £2000 gallwch fynd ar fordaith ar gwch o'r radd flaenaf i'r Unol Daleithiau ac yn ôl!!

» Yn ôl i'r brig

 

Gwaharddiad ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus.

Daeth y gyfraith ar wahardd ysmygu mewn mannau cyhoeddus yng Nghymru i rym ar 2 Ebrill 2007.

Pam y cyflwynwyd y ddeddfwriaeth?

Mae'r gyfraith yn diogelu gweithwyr a'r cyhoedd rhag effeithiau niweidiol mwg tybaco yn yr amgylchedd.

Yn 1998, cyhoeddodd Pwyllgor Gwyddonol y DU ar Dybaco ac Iechyd (SCOTH) adroddiad blaenllaw a ddaeth i'r casgliad y gall amlygiad i fwg ail-law achosi canser yr ysgyfaint a chlefyd y galon ymysg oedolion nad ydynt yn ysmygu a chlefyd anadlol, marwolaeth yn y crud, afiechyd canol y glust a phyliau o'r fogfa (asthma) ymysg plant. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn amcangyfrif y bydd y ddeddfwriaeth ddi-fwg yn atal dros 400 o farwolaethau bob blwyddyn ymysg y rhai nad ydynt yn ysmygu yn sgîl clefyd y galon, canser, strôc a chlefydau anadlol.

Pa droseddau y mae'r ddeddfwriaeth wedi'u creu?

Mae ysmygu yn erbyn y gyfraith mewn mannau cyhoeddus a gweithleoedd os ydynt yn gaeedig yn rhannol neu'n llwyr, gan gynnwys ystafelloedd a oedd wedi'u dynodi fel 'ystafelloedd ysmygu' yn flaenorol.

Mae'r gyfraith yn effeithio ar y rhan fwyaf o fannau cyhoeddus, gan gynnwys gweithleoedd a cherbydau gwaith ac mae'n gymwys i staff, cwsmeriaid ac ymwelwyr. Mae methiant i gydymffurfio â'r gyfraith yn drosedd - ceir tri throsedd penodol:

  • methiant i arddangos arwyddion dim ysmygu mewn mangre a gwmpesir gan y gyfraith (dirwy sefydlog o £200, neu uchafswm dirwy o £1000 yn sgîl collfarn)
  • ysmygu mewn man di-fwg (dirwy sefydlog o £50, uchafswm dirwy o £200 yn sgîl collfarn)
  • methiant i atal ysmygu mewn man di-fwg (dirwy sefydlog o £2500 yn sgîl collfarn)

Mae swyddogion awdurdodedig mewn awdurdodau lleol yn gorfodi'r gyfraith ac yn cynnig cymorth i fusnesau i gydweithredu â'u darpariaeth. Gallwch ffonio'r Tîm Gwella Iechyd ar 029 2087 1840 i gofrestru unrhyw gwynion am dorri'r ddeddfwriaeth. Ymchwilir i bob cwyn a chânt eu dilyn. Mae cyngor i fusnesau ar gael ar y rhif hwn hefyd.

Beth sydd angen i mi ei wneud?

Mae angen i unigolion fod yn ymwybodol ei bod yn drosedd i ysmygu mewn man caeedig sydd ag ar arwydd ar ddangos. Gallwch gael mwy o wybodaeth am y gwaharddiad, ynghyd â chwestiynau cyffredin ar y wefan benodol Gwahardd Smygu Cymru.

» Yn ôl i'r brig

 

Sut y gallaf fwynhau ffordd o fyw ddi-fwg?

Mae bywyd di-fwg yn fanteisiol nid yn unig i iechyd eich hun ond hefyd i iechyd eich teulu, ffrindiau, cydweithwyr a hyd yn oed eich anifeiliaid (Ydy go iawn! Mae cathod, cŵn ac anifeiliaid eraill yn anadlu'ch mwg ail-law hefyd. Cofnodwyd achosion o salwch ymysg anifeiliaid anwes oherwydd bod eu perchenogion yn ysmygu). Er mwyn gwneud gwahaniaeth iachach nid yw'n ddigon 'mynd drws nesaf' i gael sigarét cyflym. Wrth wneud eich tŷ yn ddi-fwg byddwch wedi gwneud dewis gwych i iechyd y rhai sy'n y tŷ nad ydynt o bosibl yn ysmygu. Mae hyn hefyd yn rhoi neges bwysig i blant; efallai eich bod yn gaeth i sigaréts ond rydych yn gwybod pa mor niweidiol ydyw ac nid ydych am iddynt ddod yn gaeth hefyd.

Hyd yn oed os ydych yn agor ffenestr, bydd mwg ail-law yn aros yn yr ystafell ar ôl dwy awr a hanner! Er na allwch weld nac arogli mwg, mae e fwy na thebyg yno o hyd. Mae ysmygu mewn car hyd yn oed yn waeth gan fod yr holl fwg wedi ei grynodi mewn gwagle bach. Wrth ddechrau taith hir gyda phobl nad ydynt yn ysmygu neu blant mewn car, beth am feddwl am ddefnyddio therapi amnewid nicotin i ddiogelu eraill rhag y mwg ac yna cael sigarét ar ôl cyrraedd? Efallai y byddwch hyd yn oed yn dechrau lleihau faint rydych yn ysmygu gan arbed llawer o arian.

» Yn ôl i'r brig

 

Wyddech chi?

Gellir arbed bron i £2000 y flwyddyn drwy roi'r gorau i ysmygu 20 sigarét y dydd.

Mae pobl yn credu, a hynny'n anghywir, bod ffilter sigaréts yn ddeunydd sy'n pydru'n naturiol a'i fod wedi'i wneud o gotwm. Fodd bynnag, mae wedi'i wneud o seliwlos asetad, sy'n cymryd 12 mlynedd i bydru.

Mae bonion sigaréts yn niweidiol i'r amgylchedd ac yn achosi problemau iechyd i blant ac anifeiliaid sy'n eu bwyta nhw.

Mae'r risg o menopos cynnar yn arbennig o uchel ymhlith merched sy'n ysmygu - canfu un astudiaeth fawr yn UDA bod merched 40-44 oed sy'n ysmygu ddwywaith (2.1) mwy tebygol o fod wedi bod drwy'r menopos na rhai o'r un oedran nad ydynt yn ysmygu. Po fwyaf o sigaréts a ysmygwyd, y mwyaf yw'r risg. Er enghraifft, dangosodd astudiaeth o ferched o'r Alban yn eu pedwardegau fod y risg o menopos cynnar bron wedi treblu (2.7) i ferched a oedd wedi bod yn ysmygu pecyn o sigaréts y dydd am 20 mlynedd.

Nodwyd ysmygu yn ystod beichiogrwydd fel achos o farwolaeth yn y crud. Mae'r risg o farwolaeth yn y crud bron yn treblu ymysg babanod y mae eu mamau'n ysmygu yn ystod beichiogrwydd ac ar ei ôl. Po fwyaf o sigaréts a ysmygwyd, y mwyaf yw'r risg.

"O'r bobl sy'n fyw heddiw, bydd 650 miliwn yn cael eu lladd gan dybaco yn y pen draw. Mae sigaréts yn lladd hanner y bobl sy'n eu defnyddio am oes, ac mae hanner o'r rheini'n marw'n ganol oed. Nid oes unrhyw gynnyrch arall i ddefnyddwyr ar y farchnad sydd mor beryglus i bobl neu sy'n lladd cymaint â hynny o bobl. Mae tybaco'n lladd mwy na AIDS, cyffuriau cyfreithlon, cyffuriau anghyfreithlon, damweiniau ar ffyrdd, llofruddiaeth a hunanladdiad gyda'i gilydd."

Mae cynnydd mewn achosion o afiechyd canol y glust, gan gynnwys haint y glust rheolaidd ymhlith plant sy'n cael eu hamlygu i fwg ail-law.

» Yn ôl i'r brig

 

Sylwadau gan bobl sydd wedi bod i Grwpiau Rhoi'r Gorau i Ysmygu.

  • Rhoddais gynnig ar roi'r gorau iddi sawl tro, ond methais. Diolch i'r arbenigwraig a'i thîm am roi'r cyfle i mi ymuno â'i rhaglen. Erbyn hyn rwyf wedi bod yn ddi-fwg ers dechrau'r cwrs ac rwy'n falch iawn o hynny.
  • Mae anogaeth gan bobl debyg i mi wedi fy helpu i ganolbwyntio.
  • Rwyf wedi bod yn ysmygu ers 56 o flynyddoedd ac ni allaf gredu fy mod wedi dod mor bell.
  • Roedd y grŵp yn wych. Rwy'n arbed £20 yr wythnos.
  • Ni allaf ddweud unrhyw beth gwael am y cwrs - roeddwn wir yn edrych ymlaen ar ddydd Iau.
  • Rwy'n teimlo fel petai gwyrth wedi digwydd - doeddwn i byth yn credu y gallwn roi'r gorau iddi ar ôl 40 o flynyddoedd, ond rwyf wedi gwneud.
  • Fe wnes i wir fwynhau. Roeddwn yn edrych ymlaen at fynd i'r grŵp - ond nid oeddwn am fynd pan ddywedodd y Meddyg.
  • Roedd pawb yn yr un cwch ac yn helpu ei gilydd.
  • Roeddwn i'n nerfus i ddechrau ond roedd o gymorth mawr yn y pen draw.
  • Roeddwn yn credu bod y sesiynau'n adeiladol. Nid oeddwn yn gallu credu faint o wahaniaeth roedd y grwpiau yn eu gwneud. Byddwn yn bendant heb roi'r gorau iddi heb y grŵp. Diolch am eich holl help a'ch cymorth.

» Yn ôl i'r brig

 

Cenedlaethol Dyddiau: Rhoi'r Gorau i Ysmygu

9 Mawrth 2011

Diwrnod Dim Smygu, Diwrnod Dim Smygu (yr elusen).

www.nosmokingday.org.uk


7 Ebrill 2011

Diwrnod Iechyd y Byd, Sefydliad Iechyd y Byd.

www.who.int/world-health-day


11 - 15 Ebrill 2011

National Allergy Week, Allergy UK.

www.allergyuk.org


9 - 13 Mai 2011

Wythnos Atal Canser, Cronfa Ymchwil Canser y Byd.

www.www.wcrf-uk.org


9 - 13 Mai 2011

Asthma Awareness Week.

www.asthma.org.uk


13 Mai 2011

Dydd Gwener Ffrwythau, Cronfa Ymchwil Canser y Byd.

www.fruityfriday.org


15 Mai - 12 Mehefin 2011

Mis Cenedlaethol Gwenu, Sefydliad Iechyd Deintyddol Prydain.

www.nationalsmileweek.org


31 Mai 2011

Diwrnod Dim Tybaco y Byd, Sefydliad Iechyd y Byd, Swyddfa Ranbarthol Ewrop.

www.euro.who.int/tobaccofree


5 Mehefin 2011

Diwrnod Amgylchedd y Byd, Y Cenhedloedd Unedig.

www.un.org/climatechange/calendar


13 - 19 Mehefin 2011

Wythnos 'Breathe Easy', Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint.

www.lunguk.org


26 Mehefin 2011

Diwrnod Rhyngwladol yn erbyn Camddefnyddio Cyffuriau a Masnachu Anghyfreithlon, Y Cenhedloedd Unedig.

www.unodc.org


1 - 30 Tachwedd 2011

Mis Ymwybyddiaeth o Ganser yr Ysgyfaint, Cymorth Canser Macmillan.

www.macmillan.org.uk


14 - 18 Tachwedd 2011

Indoor Allergy Week.

www.allergyuk.org


» Yn ôl i'r brig

 

Wyddech chi

  •    Fod gennych hawl i adolygu eich meddyginiaethau gyda'ch fferyllydd lleol am ddim.
  •    Gall diet cytbwys, iach, ymarfer corff yn amlach a cholli pwysau pe bai angen rwystro datblygu'r clefyd siwgr.
  •    Gall pobl ifanc rhwng 13 a 25 oed gael cyngor cyfrinachol ynghylch iechyd rhywiol a derbyn condomau am ddim oddi wrth y Cynllun Cerdyn Condom Caerdydd.
  •    Gallai lleihau faint o halen sydd yn eich bwyd o 9g i 6g leihau pwysau gwaed.
  •    Mae camddefnyddio alcohol wedi golygu bod rhyw 33,000 o bobl yng Nghymru a Lloegr wedi gorfod mynd i'r ysbyty am eu bod yn dioddef o glefyd yr afu oherwydd alcohol.
  •    Gallai gwella'ch diet eich rhwystro rhag dioddef o draean o'r holl ganserau.
  •    Mae gan dros 40% o blant 5 oed yng Nghaerdydd un neu fwy o ddannedd pwdr.
  •    Ar hyn o bryd dywedir fod dros hanner poblogaeth Caerdydd dros bwysau neu'n ordew.
  •    Os ydych yn gyrru ar ôl yfed dwywaith y terfyn alcohol cyfreithiol rydych chi 30 gwaith mwy tebygol o achosi damwain ar y ffordd, na gyrrwr sydd heb yfed.
  •    Mae tystiolaeth yn dangos bod diet cytbwys iach, gweithgareddau corfforol a chadw pwysau iach yn effeithiol o ran osgoi a thrin gorbwysedd.
  •    Mae bod yn ordew yn golygu y gallech chi farw rhyw 9 mlynedd ynghynt.
  •    Gall ymarfer corff rheolaidd helpu'n sylweddol os ydych chi'n teimlo'n isel eich ysbryd, dan bwysau neu'n bryderus.
  •    Mae diet sy'n llawn ffrwythau a llysiau yn lleihau'r perygl o ddioddef oherwydd clefyd y galon.
  •    Bydd 650 miliwn o'r bobl sy'n fyw heddiw, yn marw oherwydd tybaco.
  •    Gallai bwyta darn ychwanegol o ffrwythau a llysiau y diwrnod olygu fod rhyw 4% yn llai o berygl o ddioddef clefyd y galon a 6% yn llai o berygl o ddioddef strôc.
  •    Os ydych chi'n ymarfer corff yn rheolaidd, rydych chi'n 50% yn llai tebygol o fynd yn ordew.
  •    Gellid arbed bron i £2000 y flwyddyn drwy roi'r gorau i ysmygu 20 sigar&eacure;t y dydd.
  •    Os ydych chi'n ymarfer corff yn rheolaidd, rydych ryw 50% yn llai tebygol o ddatblygu clefyd y galon na'r bobl hynny na ydynt yn ymarfer corff.
  •    Trwy ymarfer corff yn rheolaidd rydych yn lleihau'r perygl o ddatblygu osteoporosis.
  •    Mae wedi'i brofi fod ysmygu yn ystod cyfnod beichiogrwydd yn un o achosion marwolaeth grud.
  •    Yng Nghymru, amcangyfrifir bod peidio ag ymarfer corff yn costio rhyw £650 miliwn y flwyddyn i'r gwasanaeth iechyd a'r economi yn gyffredinol.
  •    Mae'r 6,000 o ddynion sy'n marw o glefyd y galon bob blwyddyn yn uniongyrchol oherwydd alcohol.
  •    Dim ond 26% o oedolion yng Nghaerdydd sy'n gwneud hanner awr o ymarfer corff 5 diwrnod yr wythnos.

Pethau Defnyddiol i'w Lawrlwytho

» D am diogelu babanod a phlant rhag smygu goddefol (pdf)

» S am smygu a beichiogrwydd (pdf)