» Tîm Alcohol a Chyffuriau Caerdydd
Darparu cymorth ymarferol, arweiniad, cwnsela a gofal cymunedol i bobl â phroblemau cyffuriau ac alcohol a'u teuluoedd.
» Uned Ddibyniaeth Gymunedol
Darparu gwasanaeth amlddisgyblaeth gan gynnwys cyngor meddygol, dadwenwyno cleifion mewnol ac allanol, cyngor a chymorth, canolfan galw heibio i gyfnewid nodwyddau..
» Inroads
Elusen gofrestredig sy'n darparu gwasanaeth cyfrinachol am ddim sy'n cynnig cyngor, gwybodaeth a chymorth i unrhyw un yr effeithir arno gan ddefnydd cyffuriau ei hun neu rywun arall.
Bod yn Gaeth... Camddefnyddio... Dibyniaeth... Beth yw ystyr popeth?
Bod yn gaeth i gyffur yw pan fyddwch yn ddibynnol arno, ac mae'n ffurfio rhan ganolog o'ch bywyd. Camddefnyddio cyffuriau yw cymryd cyffuriau anghyfreithlon neu gymryd meddyginiaethau mewn modd na argymhellir gan eich meddyg neu'r gwneuthurwr. Mae cymryd llawer iawn o feddyginiaethau sy'n beryglus i'ch iechyd hefyd yn enghraifft o gamddefnyddio cyffuriau. Gall camddefnyddio cyffuriau arwain at ddibyniaeth gorfforol, neu ddibyniaeth seicolegol.
Ystyr dibyniaeth gorfforol yw bod eich corff wedi dod mor gyfarwydd â'r cyffur fel eich bod yn dioddef symptomau diddyfnu wrth beidio â'i gymryd. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi barhau i gymryd y cyffur er mwyn peidio â theimlo'n sâl. Ystyr dibyniaeth seicolegol yw eich bod yn cymryd y cyffur gan ei fod wedi ffurfio rhan fawr o'ch bywyd, a'ch bod yn ei gymryd i wneud eich hun deimlo'n dda. Efallai y byddwch yn teimlo na allwch roi'r gorau i gymryd y cyffur, er nad ydych yn ddibynnol yn gorfforol arno. Gall rhai cyffuriau eich gwneud yn ddibynnol arno'n gorfforol ac yn seicolegol. Wrth i chi gymryd mwy o'r cyffur, mae eich corff yn cynefino ag ef felly nid yw ei effaith mor gryf. Mae hyn yn golygu bod angen i chi gymryd mwy ohono er mwyn cael yr un effaith â phan oeddech yn dechrau ei gymryd.
Poeni am eich defnydd eich hun o gyffuriau? Poeni am ddefnydd cyffuriau rhywun arall?
Mae'r defnydd o gyffuriau'n bwnc brawychus ac efallai'ch bod yn poeni am eich defnydd eich hun, neu'n poeni am les rhywun sy'n agos atoch.
Gall defnyddio cyffuriau gael nifer o ganlyniadau negatif. Bydd y mathau o ganlyniad yn dibynnu ar y math o gyffur a ddefnyddir. Ymhlith rhai o'r canlyniadau yma mae:
Newid yn eich hwyl a bod yn ymosodol
Problemau iechyd meddwl fel iselder ysbryd neu seicosis
Problemau iechyd corfforol fel problemau'r frest, problemau'r galon neu grawniad ar ôl chwistrellu
Fod gennych hawl i adolygu eich meddyginiaethau gyda'ch fferyllydd lleol am ddim.
Gall diet cytbwys, iach, ymarfer corff yn amlach a cholli pwysau pe bai angen rwystro datblygu'r clefyd siwgr.
Gall pobl ifanc rhwng 13 a 25 oed gael cyngor cyfrinachol ynghylch iechyd rhywiol a derbyn condomau am ddim oddi wrth y Cynllun Cerdyn Condom Caerdydd.
Gallai lleihau faint o halen sydd yn eich bwyd o 9g i 6g leihau pwysau gwaed.
Mae camddefnyddio alcohol wedi golygu bod rhyw 33,000 o bobl yng Nghymru a Lloegr wedi gorfod mynd i'r ysbyty am eu bod yn dioddef o glefyd yr afu oherwydd alcohol.
Gallai gwella'ch diet eich rhwystro rhag dioddef o draean o'r holl ganserau.
Mae gan dros 40% o blant 5 oed yng Nghaerdydd un neu fwy o ddannedd pwdr.
Ar hyn o bryd dywedir fod dros hanner poblogaeth Caerdydd dros bwysau neu'n ordew.
Os ydych yn gyrru ar ôl yfed dwywaith y terfyn alcohol cyfreithiol rydych chi 30 gwaith mwy tebygol o achosi damwain ar y ffordd, na gyrrwr sydd heb yfed.
Mae tystiolaeth yn dangos bod diet cytbwys iach, gweithgareddau corfforol a chadw pwysau iach yn effeithiol o ran osgoi a thrin gorbwysedd.
Mae bod yn ordew yn golygu y gallech chi farw rhyw 9 mlynedd ynghynt.
Gall ymarfer corff rheolaidd helpu'n sylweddol os ydych chi'n teimlo'n isel eich ysbryd, dan bwysau neu'n bryderus.
Mae diet sy'n llawn ffrwythau a llysiau yn lleihau'r perygl o ddioddef oherwydd clefyd y galon.
Bydd 650 miliwn o'r bobl sy'n fyw heddiw, yn marw oherwydd tybaco.
Gallai bwyta darn ychwanegol o ffrwythau a llysiau y diwrnod olygu fod rhyw 4% yn llai o berygl o ddioddef clefyd y galon a 6% yn llai o berygl o ddioddef strôc.
Os ydych chi'n ymarfer corff yn rheolaidd, rydych chi'n 50% yn llai tebygol o fynd yn ordew.
Gellid arbed bron i £2000 y flwyddyn drwy roi'r gorau i ysmygu 20 sigar&eacure;t y dydd.
Os ydych chi'n ymarfer corff yn rheolaidd, rydych ryw 50% yn llai tebygol o ddatblygu clefyd y galon na'r bobl hynny na ydynt yn ymarfer corff.
Trwy ymarfer corff yn rheolaidd rydych yn lleihau'r perygl o ddatblygu osteoporosis.
Mae wedi'i brofi fod ysmygu yn ystod cyfnod beichiogrwydd yn un o achosion marwolaeth grud.
Yng Nghymru, amcangyfrifir bod peidio ag ymarfer corff yn costio rhyw £650 miliwn y flwyddyn i'r gwasanaeth iechyd a'r economi yn gyffredinol.
Mae'r 6,000 o ddynion sy'n marw o glefyd y galon bob blwyddyn yn uniongyrchol oherwydd alcohol.
Dim ond 26% o oedolion yng Nghaerdydd sy'n gwneud hanner awr o ymarfer corff 5 diwrnod yr wythnos.