Sefydliadau Iach
- Siarter Ottawa (1986)
Gall sefydliadau sy'n mynd ati'n rhagweithiol i wneud newidiadau i gefnogi a gwella iechyd a lles ei weithwyr gofrestru i'n rhestr o Sefydliadau Iach.
- Beth yw Sefydliad Iach?
- Pwy yw'r Sefydliadau Iach a beth maen nhw'n ei wneud?
- Dod yn Sefydliad Iach
- Dywedwch wrthym sut y gallwn eich helpu?
Mae gweithleoedd iachach yn meithrin gweithwyr iachach sydd, yn eu tro, yn helpu i greu gweithlu mwy hapus a mwy cynhyrchiol. Felly, mae rhaglen Dinas Iach Caerdydd yn gwbl ymrwymedig i gefnogi sefydliadau i wneud newidiadau (waeth pa mor fach) sy'n gwella iechyd a lles ei weithwyr.
Mae rhan sylweddol o raglen Dinas Iach Caerdydd yn canolbwyntio ar gyflawni canlyniadau gwell trwy ddatblygu amgylcheddau gofalgar a chefnogol, megis ysgolion a gweithleoedd iach.
Beth yw Sefydliad Iach?
Mae'r adran hon wrthi'n cael ei datblygu. Dewch i'r wefan eto yn fuan i gael rhagor o wybodaeth.
Pwy yw'r Sefydliadau Iach a beth maen nhw'n ei wneud?
Mae'r adran hon wrthi'n cael ei datblygu. Dewch i'r wefan eto yn fuan i gael rhagor o wybodaeth.
Dod yn Sefydliad Iach
Os ydych wedi gwneud newidiadau neu wedi cyflwyno mentrau sy'n cefnogi iechyd a lles eich gweithwyr byddem yn fwy na pharod i glywed gennych! Cwblhewch y ffurflen a dywedwch wrthym beth rydych wedi'i wneud.
Dywedwch wrthym sut y gallwn eich helpu!
Rydym yn ceisio datblygu cynnwys y dudalen hon. Fel gweithiwr yn y maes Iechyd a Lles, hoffem eich barn am yr hyn yr hoffech chi weld yn yr adran hon. Cysylltwch â Dinas Iach Caerdydd.
Cyfres Darlithoedd Dinas Iach
Mae'r adran hon wrthi'n cael ei datblygu. Dewch i'r wefan eto yn fuan i gael rhagor o wybodaeth.
Fforwm Busnes Dinas Iach
Mae rhaglen pum mlynedd, Rhaglen Dinas Iach Caerdydd, yn ceisio cael ymrwymiad gan amrywiaeth eang o randdeiliaid i wella iechyd a lles y boblogaeth leol, gan ganolbwyntio ar anghenion a blaenoriaethau lleol.
Mae profiad Dinasoedd Iach Ewrop eraill yn awgrymu er eu bod o bosibl yn gallu gweithio'n dda gyda'r cyhoedd a'r sector gwirfoddol mae llawer ohonynt wedi cael trafferth gweithio mewn partneriaeth yn llwyddiannus gyda diwydiant a'r sector preifat. Gall hyn gyfyngu ar allu ac effeithiolrwydd hirdymor y fenter. O ganlyniad mae Caerdydd yn ceisio datrys hyn drwy roi mwy o bwyslais ar rôl busnesau lleol drwy ddatblygu Fforwm Busnes Dinas Iach Caerdydd.
Mae Tîm Gwella Iechyd Cyngor Caerdydd wedi sefydlu'r fforwm ar y cyd ag Admiral, Paramount Interiors, S.A. Brain, DTR Clinic a Y.C. Sports gyda'r diben o rannu gwybodaeth ac arfer da yn ymwneud â chanlyniadau iechyd. Mae'r fforwm eisoes wedi dechrau gweithio gyda gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd y cyhoedd ar nifer o fentrau gan gynnwys cyfranogiad actif yng Ngwobrau Opsiynau Iach, gwaith cymunedol, iechyd yn y gweithle a rhannu arfer busnes da.
Roedd pob un o'r pum busnes wedi'i sefydlu, tyfu ac aros yng Nghaerdydd ac o ganlyniad mae ganddynt ymrwymiad i gefnogi Rhaglen Dinas Iach yn y themâu craidd:
- Thema craidd 1: Amgylcheddau gofalgar a chefnogol
- Thema craidd 2: Byw'n iach
- Thema craidd 3: Dylunio trefol iach
Professional Conferences and Training
Os ydych yn gweithio ym maes iechyd a lles gallwch ganfod mwy am y cynadleddau, seminarau a dyddiau hyfforddi y byddwn yn eu cynnal drwy ymweld â'n tudalen digwyddiadau proffesiynol.
Rhwydwaith Ysgolion Iach Caerdydd
Rhaglen yw Rhwydwaith Ysgolion Iach Caerdydd sy'n gweithio gydag ysgolion i hyrwyddo a gwella iechyd corfforol, cymdeithasol, emosiynol a meddyliol disgyblion, holl staff yr ysgol a'r gymuned ehangach.
Ymunwch a byddwch yn rhan o ddinas iach!



