Pam?
Gall newid eich ffordd o fyw rwystro nifer sylweddol o afiechydon - clefydau’r galon, er enghraifft, neu glefyd y siwgr math 2 a llawer o fathau o gancr.
Iechyd da yw'r cyfoeth mwyaf sy gennym o bosibl. Mae mwy a mwy o bobl yn cydnabod gwerth a phwysigrwydd iechyd da ac mae llawer o bobl a sefydliadau yn awyddus i wella iechyd a lles. Mae Her Iechyd Caerdydd yn cefnogi'r gwaith hwn ar draws y ddinas.
Mae iechyd gwael yn effeithio'n andwyol ar unigolion a'u teuluoedd, cymunedau, yr economi ac, yn bwysig, ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Byddai atal iechyd gwael yn y lle cyntaf yn fanteisiol iawn i unigolion a bydd gwell iechyd yn rhyddhau adnoddau a gwasanaethau ac yn galluogi'r gwasanaethau iechyd i helpu pobl.
Sut gall Dinas Iach Caerdydd fy helpu i a sut y gallwch helpu i gyfrannu at Ddinas Iach?
Mae llawer o bethau y gallwch chi eu gwneud i rwystro iechyd gwael a newidiadau bychain iawn i'ch bywyd beunyddiol y bydd llawer o'r rhain.
Ein nod yw helpu ac annog dewis ffordd iach o fyw, ac mae'r wefan hon yn rhoi gwybodaeth a chyngor am iechyd a lles i unigolion a sefydliadau. Maen nhw oll yn bethau a allai effeithio ar eich iechyd a'ch lles:










